Os ydych chi’n breswylydd i’r cyngor ac yn diwallu’r meini prawf cymhwyso isod yna gallwn gynnal a chadw eich gardd ar eich cyfer chi.
Cymhwysedd
I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod yn breswylydd i'r Cyngor a naill ai:
- Yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl (Gofal neu Elfen Symudedd), Lwfans Gweini, Lwfans Gweini Cyson neu Lwfans Symudedd ac nad oes gennych unrhyw berthnasau yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, neu
- Yn rhan o’r Cynllun Bathodyn Glas sy’n cael ei weithredu gan y gwasanaethau cymdeithasol ac nad oes gennych unrhyw berthynas yn byw o fewn y fwrdeistref
Ar ôl i ni dderbyn eich cais byddwn yn trefnu ymweliad i’r cartref i wirio’r wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i ni.
Pa gymorth y mae’r cynllun yn ei ddarparu?
Os ydych chi’n denant sy’n diwallu’r meini prawf cymhwyso ar gyfer y cynllun yna gallwn eich cynorthwyo i gynnal a chadw eich gardd drwy...
- dorri’r gwair o leiaf wyth gwaith y flwyddyn (rhwng mis Mawrth - Tachwedd fel arfer) ar amlder o bob chwe-wyth wythnos o ddyddiad y toriad cyntaf
- torri’r gwrychoedd o leiaf dwywaith y flwyddyn lle bo’n berthnasol, yna mae gwrychoedd yn cael eu tocio ar draws y tymor fel bo’r angen.
Bydd torri gwrychoedd yn dechrau ar yr ail ymweliad i dorri gwair (canol mis Mai i ddechrau Mehefin fel arfer) ar yr amod nad oes adar yn nythu gan olygu na ellir torri'r gwrych. Os yw hyn yn digwydd, bydd y gwrych yn cael ei adael nes bydd yr adar wedi gadael y nyth (canol mis Awst fel arfer) ac yna byddwn yn torri’r gwrych.
Mae’r gwair a'r toriadau llwyni'n cael eu casglu a'u rhoi yn eich bin gwastraff gardd ar eich cyfer.
Sut allaf i wneud cais?
Gallwch wneud cais am y cynllun garddio â chymorth drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein:
Mae ffurflenni cais papur hefyd ar gael o unrhyw swyddfa tai leol.