Mae symudiad wedi’i reoli yn golygu trosglwyddo disgybl o un ysgol i'r llall yn ofalus. Mae'n gytundeb gwirfoddol rhwng dwy ysgol, chi fel rhiant/gofalwr, a'ch plentyn.
Mae'r broses wedi'i chynllunio i helpu'r disgybl i symud ymlaen a throi dalen newydd. Mae symudiad wedi’i reoli yn wahanol i drosglwyddo ysgol oherwydd ei fod yn darparu targedau i'ch plentyn eu cyflawni a phecyn mwy strwythuredig o gefnogaeth.
Gellid cynnig symudiad wedi’i reoli am amrywiaeth o resymau, ond gallai'r broses fod yn arbennig o fuddiol i:
- disgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd yn barhaol ond a allai lwyddo mewn amgylchedd newydd
- disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol sydd wedi derbyn amrywiaeth o strategaethau cefnogol yn eu hysgol heb lawer o lwyddiant
- disgyblion sy'n ystyried bod mynd i’w hysgol bresennol yn cael effaith negyddol ar eu lles emosiynol
Sut mae cychwyn ar y broses?
Gall Pennaeth presennol eich plentyn awgrymu symudiad wedi’i reoli os yw wirioneddol yn credu y byddai dechrau newydd mewn ysgol newydd yn fuddiol i'ch plentyn. Dylai hyn ond cael ei awgrymu ar ôl i'r ysgol ddarparu ystod o strategaethau ac ymyriadau i gefnogi'ch plentyn.
Gellir awgrymu symudiad wedi’i reoli hefyd pan fydd cais i drosglwyddo ysgol yn cael ei dderbyn. Efallai fydd Pennaeth yr ysgol y gofynnwyd amdani yn awgrymu y byddai symudiad wedi’i reoli sydd wedi'i gynllunio'n ofalus yn cefnogi eich plentyn yn well ac yn rhoi'r cyfle gorau i’r trosglwyddo ysgol fod yn llwyddiannus.
Mae'r symudiad wedi’i reoli yn cael ei gydlynu gan Benaethiaid y ddwy ysgol. Os yw'r ddwy ysgol yn cytuno ac wedi cadarnhau cytundeb gyda chi fel rhiant/gofalwr, bydd yr ysgol bresennol yn rhannu gwybodaeth gyda'r ysgol newydd i'w helpu i gynllunio i gefnogi eich plentyn.
Cyfarfodydd cynllunio
Bydd cyfarfod cynllunio yn cael ei drefnu a fydd yn cael ei fynychu gan gynrychiolwyr o'r ddwy ysgol, chi a'ch plentyn. Gellir gwahodd cynrychiolwyr o asiantaethau eraill lle bo hynny'n berthnasol.
Cyn y cyfarfod hwn rydym yn argymell siarad â'ch plentyn am y broses.
Yn y cyfarfod, bydd pawb yn trafod manteision cadarnhaol y symudiad wedi’i reoli ac unrhyw bryderon penodol. Bydd pob parti yn cytuno ar ddyddiadau a thargedau adolygu - mae'r rhain yn aml yn ymwneud ag ymddygiad a phresenoldeb.
Cyfnod Prawf
Dros gyfnod o amser y cytunwyd arno, fel arfer cyfnod o chwe wythnos, bydd eich plentyn yn mynychu'r ysgol newydd ar sail cofrestriad deuol.
Bydd pwyntiau adolygu drwy gydol y cyfnod prawf fel bod pawb dan sylw’n gwybod sut mae'r plentyn yn dod ’mlaen, ac yn cael cyfle i ddatrys unrhyw faterion a allai godi. Gall yr ysgol newydd ddod â'r trefniant symudiad wedi’i reoli i ben ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn os na fydd y cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Ar ddiwedd y cyfnod prawf bydd angen i bob parti gytuno a oedd y symudiad wedi’i reoli yn llwyddiannus. Os yn llwyddiannus, bydd eich plentyn yn trosglwyddo i'r ysgol newydd yn barhaol. Os na fydd y cyfnod prawf yn llwyddiannus, bydd eich plentyn yn dychwelyd i'w ysgol wreiddiol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, cysylltwch â'r Tîm Derbyn yn admissions@wrexham.gov.uk