Seremonïau yn Neuadd y Dref
Ni ddylai unrhyw un sy’n profi'r symptomau coronafeirws isod fynychu:
- peswch newydd parhaus
- tymheredd uchel
- colled neu newid yn eu synnwyr arogli neu flasu arferol (anosmia)
Ni ddylai unrhyw un o aelwyd sy’n hunan-ynysu fynychu.
Cyfrifoldeb y cwpl yw cyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth.
Cyn y seremoni byddwn yn gofyn am fanylion yr holl westeion sy’n mynychu er mwyn cynorthwyo â'r broses olrhain cysylltiadau a bydd yr holl wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei thrin yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd COVID-19 (Coronafeirws).
Seremonïau mewn lleoliadau cymeradwy
Ni ddylai unrhyw un sy’n profi'r symptomau coronafeirws isod fynychu:
- peswch newydd parhaus
- tymheredd uchel
- colled neu newid yn eu synnwyr arogli neu flasu arferol (anosmia)
Ni ddylai unrhyw un o aelwyd sy’n hunan-ynysu fynychu.
Cyfrifoldeb y cwpl yw cyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth.
Ar gyfer seremonïau mewn adeiladau cymeradwyol:
- Bydd y lleoliad yn dweud faint yw’r nifer mwyaf y gall yr ystafell berthnasol ei dal a rhaid sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol o 2 fetr rhwng y rhai sy'n bresennol yn y seremoni drwy gydol yr adeg, ac eithrio'r pâr sy'n priodi
- Ni chaniateir unrhyw blant, babanod na gwesteion ychwanegol
- Caniateir cerddoriaeth
Cofrestru genedigaeth
Hawliadau Budd-Dal Plant / Credyd Cynhwysol
Dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol y gallant wneud hawliad am Fudd-Dal Plant neu Gredyd Cynhwysol cyn i’r enedigaeth gael ei chofrestru nawr, pan nad ydynt wedi gallu gwneud hyn oherwydd y mesurau hyn. Fodd bynnag, bydd angen cofrestru’r enedigaeth ar ddyddiad arall.