Rhaid i’r holl enedigaethau yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon gael eu cofrestru o fewn 42 diwrnod o enedigaeth y plentyn.

Byddwch angen ymweld â’n swyddfa gofrestru yn bersonol er mwyn cofrestru genedigaeth, ffoniwch 01978 298997 i wneud apwyntiad.

Gallwch gofrestru genedigaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg (gofynnir am eich dewis iaith pan fyddwch chi’n cysylltu â ni). 

Gwybodaeth sydd angen i chi ei darparu wrth gofrestru

  • Lleoliad a dyddiad yr enedigaeth
  • Enw, cyfenw a rhyw’r babi
  • Enwau, cyfenwau a chyfeiriad y rhieni
  • Lleoliadau a dyddiadau geni’r rhieni
  • Dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil y rhieni
  • Swyddi’r rhieni
  • Cyfenw’r fam cyn priodi 

Dewch â ‘llyfr coch’ (cofnod iechyd personol plentyn) eich plentyn gyda chi er mwyn i’r cofrestrydd weld y rhif GIG.

Efallai y byddwch hefyd am ddod â dull adnabod, a all fod yn ddefnyddiol os oes gennych sillafiad anarferol o enwau (ond nid yw hyn yn ofynnol).

Rhagor o wybodaeth am gofrestru genedigaethau

Oes rhaid i mi dalu am dystysgrifau?

Oes, pris pob tystysgrif yw £11.

Ni chaniateir taliadau drwy siec, bydd angen i chi ffonio 01978 298997 i dalu am dystysgrif.

Yn ôl y gyfraith, oes rhaid i mi gofrestru genedigaeth fy mhlentyn?

Oes. O dan Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, mae’n rhaid cofrestru pob genedigaeth.

A fydd fy apwyntiad yn cael ei gynnal mewn amgylchedd hylan?

Bydd.  Fe fydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal mewn amgylchedd diogel gan leihau unrhyw risgiau i chi neu’r cofrestrydd.  Darperir hylif gwrthfacterol i chi ei ddefnyddio.

Os ydych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd yn dangos unrhyw symptomau o Covid-19 fel yr amlinellir yng nghyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru, ni fydd modd i chi gofrestru ar hyn o bryd.

A fydd toiledau a chyfleusterau i newid babanod ar gael?

Bydd.

A fydd fy apwyntiad yn gyfrinachol?

Bydd. Fe gynhelir yr apwyntiad mewn ystafell breifat. Mae data ystadegol cyfrinachol yn cael ei gasglu yn unol â'r gyfraith, ond nid yw'n cael ei rannu'n gyhoeddus.

Oes rhaid i mi ddod â fy mabi i'r apwyntiad?

Na, nid oes angen i chi ddod â'ch plentyn i'r apwyntiad.

Nid wyf yn briod â thad y babi, beth wyf yn ei wneud?

Os ydych chi’n dymuno i fanylion y tad gael eu cofnodi ar gofrestr geni’r babi, yna byddwch angen cofrestru ar y cyd gyda’r tad yn bresennol yn yr un apwyntiad.

Rwyf mewn perthynas o’r un rhyw, ond heb briodi nac mewn partneriaeth sifil, a oes modd i fanylion fy mhartner gael eu cynnwys ar y dystysgrif?

Oes, mae modd iddynt gael eu hystyried yn ail riant i’r plentyn os yw’r ddau/ddwy ohonoch wedi cael eich trin yn y DU gan glinig trwyddedig, ac wedi llunio ‘cytundeb rhieni’.

Er mwyn i fanylion y ddau riant gael eu cofnodi rhaid i chi wneud un o'r canlynol:

  • cofrestru’r enedigaeth ar y cyd (mae angen i’r ddau riant fynychu’r apwyntiad)
  • llenwi ffurflen datganiad cydnabod rhiant statudol a dod â hi i'r apwyntiad
  • cael dogfen gan y llys yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i’r ail fenyw.

Nid wyf yn dymuno i fanylion y tad gael eu cofnodi ar y gofrestr geni, beth wyf yn ei wneud?

Fe gymerir cofrestriad sengl, a bydd manylion y tad yn cael eu gadael yn wag.

Os hoffech chi gynnwys manylion y tad yn nes ymlaen bydd angen i chi lenwi ffurflen ailgofrestru a bydd angen trefnu apwyntiad arall (bydd angen i’r ddau riant fynychu’r apwyntiad).

Sylwer, gall y tad ofyn am orchymyn llys yn caniatáu i’w fanylion gael eu cofnodi os nad ydych chi'n rhoi eich caniatâd.

Rwyf yn briod/mewn partneriaeth sifil, oes rhaid i’r ddau ohonom fynychu?

Nac oes. Gan eich bod yn briod/mewn partneriaeth sifil dim ond un ohonoch sydd angen mynychu.

Rydym ni’n gwpl priod/partneriaid sifil benywaidd, sut mae ein manylion yn ymddangos ar dystysgrif ein plentyn?

Os cafodd y babi ei genhedlu yn ystod y briodas/partneriaeth sifil ac na chafodd cytundeb ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, yna bydd y fam sy’n rhoi genedigaeth yn ymddangos fel ‘Mam’ a bydd yr ail riant yn ymddangos fel ‘rhiant’ ar y dystysgrif.

Rydym ni’n gwpl priod/partneriaid sifil gwrywaidd, sut allwn ni gael ein cofrestru fel rhieni?

Bydd angen i chi gael gorchymyn rhieni gan y llys cyn i chi allu cofrestru fel rhieni.

Ni chaniateir taliadau drwy siec, bydd angen i chi ffonio 01978 298997 i dalu am dystysgrif.

Ailgofrestru eich plentyn

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y gallwch ailgofrestru genedigaeth a ffurflenni cais perthnasol ar gael trwy'r dolenni canlynol: