Cofrestru Genedigaeth

Yn ôl y gyfraith, oes rhaid i mi gofrestru genedigaeth fy mhlentyn?

Oes. O dan Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, mae’n rhaid cofrestru pob genedigaeth.

Fydda’ i’n ddiogel, ac a fydd modd i mi gadw pellter cymdeithasol yn ystod fy apwyntiad?

Bydd. Fe fydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal mewn amgylchedd diogel gan leihau unrhyw risgiau i chi neu’r Cofrestrydd. Bydd gorsaf lân ar gael ac fe ddarperir hylif dwylo gwrthfacterol a menig untro i chi eu defnyddio.

Os ydych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd yn dangos unrhyw symptomau o Covid-19 fel yr amlinellir yng nghyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru, ni fydd modd i chi gofrestru ar hyn o bryd.

A fydd toiledau a chyfleusterau i newid babanod ar gael?

Oes.

A fydd fy apwyntiad yn gyfrinachol?

Bydd. Fe gynhelir yr apwyntiad mewn ystafell breifat. Mae data ystadegol cyfrinachol yn cael ei gasglu yn unol â'r gyfraith, ond nid yw'n cael ei rannu'n gyhoeddus.

Oes rhaid i mi ddod â fy mabi i'r apwyntiad, pa waith papur ydw i ei angen?

Na, does dim rhaid i chi ddod a’ch babi i’r apwyntiad.

Serch hynny, dewch â’ch llyfr coch gyda chi gan sicrhau fod y rhif GIG ar gael. Gallwch hefyd ddod â dull o adnabod gyda chi, yn enwedig os oes gennych chi sillafiad anarferol yn eich enw.

Pa wybodaeth fydda’ i ei angen er mwyn cofrestru?

  • lleoliad a dyddiad yr enedigaeth
  • enw, cyfenw a rhyw y baban
  • enwau, cyfenwau a chyfeiriad y rhieni
  • lleoliadau a dyddiadau geni’r rhieni
  • dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil y rhieni
  • swyddi y rhieni
  • enw’r fam cyn priodi

 

Dydw i ddim yn briod â thad y babi, beth ydw i’n ei wneud?

Os ydych chi’n dymuno i fanylion y tad gael eu cofnodi ar gofrestr geni’r babi, yna byddwch angen cofrestru ar y cyd gyda’r tad yn bresennol yn yr un apwyntiad.

Rydw i mewn perthynas o’r un rhyw, ond heb briodi nac mewn partneriaeth sifil, oes modd i fanylion fy mhartner gael eu cynnwys ar y dystysgrif?

Oes, mae modd iddynt gael eu hystyried yn ail riant i’r plentyn os ydi’r ddau/ddwy ohonoch wedi cael eich trin yn y DU gan glinig trwyddedig, ac wedi llunio ‘cytundeb rhieni’. Serch hynny, er mwyn i’r ddau/ddwy riant gael eu cofnodi mae'n rhaid i chi wneud un o’r canlynol; cofrestru’r enedigaeth ar y cyd, llenwi ffurflen datganiad o gydnabyddiaeth rhieni a dod â’r ddogfen gyda chi i’r apwyntiad, neu gael dogfen gan y llys yn rhoi cyfrifoldeb rhieni i’r ail riant benywaidd.

Nid wyf yn dymuno i fanylion y tad gael eu cofnodi ar y gofrestr geni, beth ydw i’n ei wneud?

Fe gymerir cofrestriad sengl, a bydd manylion y tad yn cael eu gadael yn wag.  Os hoffech chi gofnodi manylion y tad yn nes ymlaen bydd angen ffurflen ailgofrestru a bydd angen trefnu apwyntiad arall gyda’r ddau riant yn bresennol. Serch hynny, nodwch gall y tad ofyn am orchymyn llys yn caniatáu i’w fanylion gael eu cofnodi os nad ydych chi'n rhoi eich caniatâd.

Rydw i’n briod/mewn partneriaeth sifil, oes rhaid i’r ddau ohonom fynychu?

Nag oes. Gan eich bod yn briod/mewn partneriaeth sifil dim ond un ohonoch sydd angen mynychu.

Rydym ni’n gwpl priod/partneriaid sifil benywaidd, sut mae ein manylion yn ymddangos ar dystysgrif ein plentyn?

Os cafodd y babi ei genhedlu yn ystod y briodas/partneriaeth sifil ac na chafodd cytundeb ei dynnu nôl ar unrhyw adeg, yna bydd y fam eni yn ymddangos fel ‘Mam’ a bydd yr ail riant yn ymddangos fel ‘rhiant’ ar y dystysgrif.

Rydym ni’n gwpl priod/partneriaid sifil gwrywaidd, sut allwn ni gael ein cofrestru fel rhieni?

Bydd rhaid i chi gael gorchymyn rhieni gan y llys cyn i chi allu cofrestru fel rhieni.

Oes rhaid i mi dalu am dystysgrifau?

Oes, pris pob tystysgrif yw £11.