Mae'r dudalen we hon yn darparu gwybodaeth allweddol i drigolion, rhieni a gofalwyr wrth i gynllun Strydoedd Ysgol gael ei gyflwyno. Bydd y cynllun yn helpu i wella diogelwch a hyrwyddo teithio egnïol yn ystod amseroedd gollwng a chasglu plant i'r ysgol.

Beth yw Stryd Ysgol?

Mae Stryd Ysgol yn gynllun lle mae ffordd sydd tu allan i ysgol ar gau dros dro i'r rhan fwyaf o gerbydau yn ystod amseroedd gollwng a chasglu plant o’r ysgol yn ystod y tymor.

Mae hyn yn helpu i:

  • lleihau perygl traffig
  • gwella ansawdd aer
  • annog teithio egnïol
  • lleihau tagfeydd a pharcio anystyriol

Dim ond rhai cerbydau sy'n cael mynediad yn ystod yr amseroedd cyfyngedig (gweler yr eithriadau isod).

Pwy all barhau i gael mynediad i barth Strydoedd Ysgol?

Mae cerbydau eithriedig yn cynnwys:

  • preswylwyr â thrwyddedau Strydoedd Ysgol dilys
  • deiliaid Bathodyn Glas
  • bysiau ysgol a chludiant ysgol
  • trafnidiaeth gyhoeddus a thacsis sy'n gwasanaethu'r ardal gyfyngedig
  • gwasanaethau brys a gweithwyr gofal iechyd
  • cyfleustodau a chrefftwyr sy'n gweithio yn yr ardal
  • gwasanaethau post a dosbarthu

Yn dibynnu ar yr ysgol, efallai y bydd opsiwn i staff yr ysgol deithio trwy'r cyfyngiad i gael mynediad i'r safle.

Bydd preswylwyr yn derbyn gwybodaeth ar sut i wneud cais am Docyn Strydoedd Ysgol. Rhaid arddangos y rhain yn glir mewn unrhyw gerbyd sy'n mynd drwy’d gofyngiad yn ystod y cyfyngiadau.

Pryd fydd cyfyngiadau'n berthnasol?

Mae Strydoedd Ysgol yn gweithredu:

  • dydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol yn unig
  • yn ystod amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol
  • bydd amseroedd yn cael eu dangos ar arwyddion ffyrdd wrth fynedfa parth Strydoedd Ysgol

Nid oes unrhyw gyfyngiadau yn ystod penwythnosau na gwyliau ysgol.

Ein Cynlluniau Strydoedd Ysgol cyfredol:


Victoria C.P    

8.30-9.15yb

2.30-3.30yp

Cwestiynau Cyffredin

A allaf barhau i yrru ar Stryd Ysgol?

Dim ond os ydych chi'n gymwys i gael eithriad (gweler uchod). Ni fydd y rhan fwyaf o yrwyr yn cael mynediad yn ystod amseroedd cyfyngedig.

Ble alla i barcio i ollwng fy mhlentyn?

Rydym yn annog teuluoedd i gerdded, beicio neu sgwtera lle bo modd. Os oes rhaid i chi yrru, ystyriwch ddull 'parcio a cherdded' - parcio ychydig bellter i ffwrdd a cherdded y gweddill. Os oes gennych blant bach, ystyriwch daith gerdded o 5-10 munud, plant hŷn 10+ munud o daith gerdded.

Beth os oes angen mwy nag un cerbyd Tocyn Stryd Ysgol arnaf?

Cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Ffyrdd. Bydd angen i chi ddarparu prawf bod y cerbyd ychwanegol wedi'i gofrestru i'ch cyfeiriad.

Beth am ymwelwyr neu deulu sy'n gollwng fy mhlentyn?

Rhowch wybod iddyn nhw am y parth Strydoedd Ysgol a'u hannog i ymweld y tu allan i amseroedd cyfyngedig neu ddefnyddio teithio llesol.

Sut fydd y cynllun yn cael ei orfodi?

Gall gyrru i Stryd Ysgol heb eithriad dilys fod yn drosedd traffig symudol. Ar hyn o bryd mae Heddlu Gogledd Cymru yn gorfodi'r rheolau hyn.

Ydy’r cynllun yn barhaol?

Mae Strydoedd Ysgol yn cael eu cyflwyno fel treial o dan Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol (ETRO). Bydd y cynllun yn cael ei adolygu, a bydd adborth yn helpu i benderfynu a yw'n dod yn barhaol.

Cysylltwch â Ni

Tîm Strydoedd Ysgol – Uned Diogelwch Ffyrdd

road.safety@wrexham.gov.uk