Gallwch dalu Treth y Cyngor mewn sawl ffordd.

Taliadau ffôn

Ffoniwch 0300 3336500 a dilynwch y cyfarwyddiadau syml i dalu eich Treth y Cyngor dros y ffon gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Bancio ar-lein

Gallwch dalu eich Treth y Cyngor drwy fancio ar-lein, ein manylion banc ni ydi:

Cod Didoli: 20-25-77

Rhif y Cyfrif: 43626725 

Mae’n rhaid i chi ddyfynnu cyfeirnod eich cyfrif – mae hwn i’w weld ar eich Bil Treth y Cyngor.