Yng nghanol y straen o gynllunio i symud, mae’n rhwydd anghofio pwy i roi gwybod iddynt ynglŷn â’r newid i’ch cyfeiriad. Unwaith y byddwch yn gwybod eich bod yn mynd i symud, lluniwch restr o bwy y mae angen i chi gysylltu â nhw - i osgoi’r straen a’r perygl ychwanegol o dwyll hunaniaeth.

Pwy i roi gwybod iddynt

Isod mae enghreifftiau o fathau cyffredin o gwmnïau / sefydliadau fydd angen gwybod am newid cyfeiriad.

Efallai y bydd rhai cwmnïau, fel eich darparwr ynni, yn gofyn am gyfnod penodol o rybudd cyn i chi symud er mwyn iddynt allu gweithredu'r newidiadau.

Darparwyr gwasanaethau

Cysylltwch â'ch cyflenwyr nwy, trydan, a dŵr mor fuan ymlaen llaw ag sy'n bosibl er mwyn osgoi costau a biliau ychwanegol. Trefnwch i ddiffodd y gwasanaethau hyn yn eich hen gyfeiriad a gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer cyflenwyr eich cartref newydd. Dylech hefyd gymryd darlleniad terfynol y mesurydd pan fyddwch yn gadael eich eiddo.

Darparwyr band eang a llinell ffôn sefydlog

Rhowch wybod i’ch darparwyr cebl/ lloeren a darparwyr rhyngrwyd eich bod yn symud i osgoi ffioedd canslo munud olaf, mae symud tŷ hefyd yn gyfle da i siopa am y cynigion gorau.

Banciau

Rhowch wybod i unrhyw fanciau, cwmnïau credyd, a sefydliadau ariannol eraill rydych wedi cofrestru gyda nhw, am eich cyfeiriad newydd ychydig cyn symud neu’n syth ar ôl i chi symud. Gallai anghofio hyn eich rhoi mewn perygl o dwyll hunaniaeth.

Y Cyngor

Rhowch wybod i adran Treth y Cyngor eich cyngor lleol eich bod yn symud. Gallwch gysylltu â’n hadran Treth y Cyngor drwy anfon e-bost i counciltax@wrexham.gov.uk.

Cwmnïau yswiriant

Rhowch wybod i'ch darparwr yswiriant y cartref neu yswiriant rhentwyr eich bod yn symud a gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer eich eiddo newydd er mwyn sicrhau fod eich yswiriant yn ddilys.

Gwasanaethau ceir a cherbydau modur

Os ydych yn gyrru, dylech ddweud wrth y DVLA, eich cwmni yswiriant cerbyd, cofrestru cerbydau, a’ch cwmni adfer ar ôl torri i lawr eich bod yn symud cyn eich dyddiad symud er mwyn helpu atal problemau yswiriant car.

Ysgolion

Os oes gennych blant sydd yn yr ysgol, dywedwch wrth eu hysgol eich bod yn symud fel y gallant ddiweddaru eu cronfa ddata rhag ofn bod angen iddynt gysylltu â chi.

Cyflogwr

Rhowch wybod i'ch cyflogwr eich bod yn symud gan y bydd angen iddynt ddiweddaru eu cofnodion at ddibenion cyflogau.

Landlordiaid

Os ydych yn byw mewn eiddo ar rent, dylech adolygu eich cytundeb rhentu a rhoi gwybod i’ch landlord am eich bwriad i symud allan erbyn amser penodol (fel arfer, mae’n rhaid i chi roi o leiaf 30 diwrnod o rybudd).

Gwasanaethau Iechyd

Rhowch wybod i unrhyw wasanaethau iechyd rydych wedi cofrestru â nhw (e.e. meddyg, deintydd, optegydd, milfeddygfa eich anifail anwes) eich bod yn symud. Os ydych yn symud allan o ddalgylch eich practis lleol, efallai y bydd rhaid i chi gofrestru gyda meddygfa newydd.

Swyddfa'r Post

Gall eich Swyddfa'r Post leol eich helpu i roi trefn ar unrhyw bost sy’n dal i gael ei anfon i'ch hen gyfeiriad drwy ei ailgyfeirio ar eich rhan (dolen gyswllt allanol), codir tâl am y gwasanaeth hwn.

Hyd yn oed ar ôl symud, dylech gadw llygad ar eich post am ychydig wythnosau. Os nad ydych yn derbyn y llythyrau neu’r biliau y byddech yn eu disgwyl, cysylltwch â'r cwmni neu’r sefydliad i wneud yn siŵr eu bod wedi diweddaru eich cyfeiriad.

Dyma rai o’r cwmnïau/ sefydliadau eraill y gallai fod angen i chi roi gwybod iddynt... 

  • Clybiau a sefydliadau rydych yn aelodau ohonynt
  • Gweithredwyr rhwydweithiau symudol
  • Tanysgrifiadau neu ddanfoniadau rheolaidd