Mae ein gwasanaeth arlwyo prydau ysgol yn gweithio i ddarparu amrywiaeth dda o ddewisiadau bwyd, gyda bwydydd maethol i helpu plant i dyfu a datblygu.
Beth mae prydau ysgol yn eu darparu?
Mae’r gwasanaeth arlwyo prydau ysgol mewn ysgolion cynradd yn cynnig bwydlen dau gwrs am bris penodedig, gyda dewis dyddiol o ddau brif gwrs, neu datws trwy’u crwyn â llenwad a salad neu becyn cinio, a phwdin wedi’i baratoi yn ffres neu ffrwyth.
Mewn ysgolion uwchradd, mae bwydlen dau gwrs am bris penodedig hefyd ar gael, yn ogystal â phryd y dydd am bris penodol, ac ystod lawn o eitemau wedi eu prisio’n unigol yn y ffreutur, yn cynnwys saladau, brechdanau, pwdinau a diodydd.
Mae dewis llysieuol ar gael yn ddyddiol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Prisiau prydau ysgol
- Prydau ysgol i fabanod - £2.40
- Prydau ysgol i ddisgyblion cynradd - £2.40
- Prydau ysgol i ddisgyblion uwchradd a disgyblion ysgol Sant Christopher, pryd arbennig y dydd a lwfans cinio am ddim - £2.45
- Prydau ysgol i oedolion - £3.20
Bwydlenni prydau ysgol
Mae gan ysgolion cynradd dair bwydlen wahanol sy’n ailadrodd bob tair wythnos.
Ar ôl pob gwyliau ysgol, ‘wythnos un’ fydd y fwydlen ar yr wythnos gyntaf yn ôl bob tro.
Mae gan ysgolion uwchradd ddwy fwydlen wahanol sy’n ailadrodd bob pythefnos.
Ar ôl pob gwyliau ysgol, ‘wythnos un’ fydd y fwydlen ar yr wythnos gyntaf yn ôl bob tro.