Beth mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam (PDC) yn ei wneud?

Mae PDC Wrecsam yn dwyn ynghyd ystod o asiantaethau lleol sy'n gweithio gyda'i gilydd i helpu Wrecsam ddod yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld. Mae PDC yn gwneud hyn drwy aros yn ymwybodol o natur trosedd ac anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau yn y fwrdeistref sirol, a rhoi camau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae aelodaeth PDC yn cynnwys:

  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae blaenoriaethau ac amcanion PDC Wrecsam wedi’u nodi yn ein cynllun partneriaeth. 

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch anfon e-bost at communitysafety@wrexham.gov.uk..

Gwybodaeth berthnasol

Llinellau cymorth allweddol

Byw Heb Ofn – Llinell Gymorth Cam-Drin a Throsedd Cymru Gyfan

Yn darparu cyngor i’r rhai sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol a ffurfiau eraill o drosedd yn erbyn merched.

Rhif ffôn: 0808 8010 800
Neges Destun: 07860077333

Llinell Gymorth Dyn Wales – cymorth i ddynion sy’n dioddef cam-drin domestig

Yn rhoi cymorth i ddynion ar draws Cymru sy’n dioddef cam-drin domestig o unrhyw fath, gyda mynediad at wasanaethau cynnal a diogelwch.

Rhif ffôn: 029 2034 9970

C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru

Mae C.A.L.L (sy’n sefyll am ‘Community Advice & Listening Line’ Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned) yn wasanaeth cyfrinachol sy’n gwrando ac yn rhoi cymorth.

Rhif ffôn: 0800 132737, neu anfonwch neges destun, ‘HELP’ at 81066.

DAN 24/7 – Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru

Llinell gymorth yw DAN 24/7 ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd am gael cyngor neu gymorth yn ymwneud â chyffuriau/alcohol.

Rhif ffôn: 0808 8082234, neu anfonwch neges destun, ‘DAN’ at 81066.

Gwasanaethau Lleol

Hafan y Dref – canolbwynt lles dros nos

Nod Hafan y Dref yw darparu lle diogel i rai sy’n ymweld â chanol y dref yn y nos, i helpu pobl gyda phroblemau fel y rhain:

  • ddim yn teimlo’n dda
  • wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu ffrindiau
  • dim batri yn eu ffôn
  • yn rhy feddw i allu mynd adref

Lle bo angen, mae modd darparu sylw meddygol a chymorth.

Lleoliad

Mae’r ganolfan wedi’i lleoli wrth waelod Allt y Dref ger Maes Parcio Eglwys San Silyn.

Oriau agor

Mae’r ganolfan ar agor o 10pm tan 4am nos Wener a nos Sadwrn (ac ar nosweithiau prysur eraill yn Wrecsam). 

Gwasanaethau a ddarperir

Gallai pobl sy’n dod i’r ganolfan fod wedi brifo, fod yn feddw ar alcohol neu’n benfeddw ar gyffuriau anghyfreithlon a/neu’n agored i niwed. Mae'r ganolfan yn darparu cyfuniad o asesiad meddygol, adferiad dan oruchwyliaeth ac yn rhyddhau.

Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig gofal bugeiliol, cymorth i rai sy’n cysgu ar y stryd a chyngor i rai sydd ar goll neu sydd angen mynd adref. Gall hefyd ddarparu sylfaen ffisegol i bartneriaid sy'n rheoli'r economi nos leol.

Mae’r ganolfan les yn cael ei rhedeg a’i staffio gan Events Medical Team (dolen gyswllt allanol).

Cyllid

Ariennir y canolbwynt drwy Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ynghyd â’n cyllid ein hunain.

 

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â communitysafety@wrexham.gov.uk