Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â Costelloes EV Group sy'n gweithredu ac yn cynnal a chadw'r seilwaith gwefru ceir cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol.
Gallwch gael gwybodaeth am feysydd parcio'r cyngor sydd â mannau gwefru cerbydau trydan ar ein tudalen 'dod o hyd i faes parcio'.
Mae rhagor o wybodaeth am fannau gwefru sy’n cael eu cynnal gan Costelloes ar gael ar wefan Costelloes EV Group (dolen gyswllt allanol).
Lleoedd gwefru cerbydau trydan
Defnyddiwch le gwefru cerbyd trydan am yr amser y mae'n ei gymryd i wefru'ch cerbyd yn unig, ac ar ôl hynny bydd gofyn i chi ei symud i le arall.
Wrth wefru eich cerbyd mewn maes parcio’r cyngor lle mae ffioedd parcio yn berthnasol, rhaid i chi dalu i barcio am yr amser sydd ei angen arnoch oherwydd fel arall gallech dderbyn Hysbysiad Tâl Cosb.
Gall parcio cerbyd nad yw’n drydan mewn lle gwefru cerbydau trydan arwain at gyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb yn eich erbyn.
Gall parcio cerbyd trydan mewn lle gwefru cerbyd trydan heb gysylltu a gwefru'ch cerbyd hefyd arwain at gyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb.
Rhoi gwybod am broblem
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda pheiriant gwefru cerbyd trydan, ffoniwch Costelloes ar 0800 086 2622. Mae eu canolfan alwadau ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.