Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu. Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau fod bywyd yn deg i bawb.
Bob pedair blynedd, rydym yn nodi set o ganlyniadau cydraddoldeb strategol sy'n llywio ein hymdrechion i hyrwyddo tegwch a chynhwysiant. Mae'r canlyniadau hyn wedi'u hymgorffori'n llawn yn ein Cynllun Cyngor, gan sicrhau eu bod yn siapio ein blaenoriaethau a'n gweithredoedd.
Gallwch weld ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r canlyniadau cydraddoldeb sydd wedi'u hymgorffori yn ein Cynllun Cyngor drwy ymweld â'n tudalen Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Deddfwriaeth Berthnasol
Fel awdurdod lleol mae rhai dyletswyddau yn ymwneud â chydraddoldeb sy’n rhaid i ni eu diwallu yn ôl y gyfraith.
Data ac Adrodd ar Gydraddoldeb
Defnyddiwn wybodaeth berthnasol am gydraddoldeb i wneud y canlynol:
- adolygu ein canlyniadau cydraddoldeb i sicrhau eu bod yn parhau i fod y meysydd canolbwynt cywir
- hysbysu gwneud penderfyniadau ar draws y Cyngor
Ble’n bosib defnyddiwn ystod o ffynonellau data gan gynnwys ystadegau, adroddiadau ymchwil ac ymgynghoriad neu adborth ymgysylltu. Gellir dod o hyd i rywfaint o’r data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys data ar nodweddion gwarchodedig, ar ein tudalen data ac ymchwil.