Er mwyn darparu gofal i blant (hyd at 12 oed) yng Nghymru am fwy na dwy awr y dydd, mae’n rhaid cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Gallai fod help i dalu’r costau ar gael drwy’r Credyd Cynhwysol, credydau treth, gofal plant di-dreth, talebau gofal plant a lleoedd rhan-amser wedi’u hariannu ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed.

Gwarchodwyr Plant

Darparwyr gofal dydd sy’n gweithio yn eu cartrefi eu hunain yn gofalu am blant; maent yn hunangyflogedig ac yn gosod eu prisiau eu hunain. Maent yn gweithio yn y gymuned, sy’n golygu y gall plant fynd i grwpiau chwarae a chylchoedd meithrin yn lleol, yn ogystal â grwpiau rhieni a babanod, clybiau ac ymweld â ffrindiau.

Mae’n rhaid i bob gwarchodwr plant gael tystysgrif cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru a thystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Yn ogystal â chofrestru mae’n rhaid i Arolygiaeth Gofal Cymru arolygu pob gwarchodwr hefyd o ran addasrwydd, ansawdd y cartref ac unrhyw unigolion dros un ar bymtheg oed sy’n byw yn y cartref.

Maent yn gyfrifol am ddiogelwch eich plentyn yn ogystal â’i (d)datblygiad emosiynol a chorfforol. Dylid darparu cymysgedd o chwarae a phrofiadau dysgu y tu mewn i’r cartref a’r tu allan. Gallant gynnig gofal plant hyblyg gydol y flwyddyn, boed yn llawn-amser neu’n rhan-amser, a’r tu allan i oriau’r ysgol. Maent yn medru gofalu am hyd at ddeg o blant o wahanol oedrannau ar yr un pryd, ac felly’n medru derbyn brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.

Meithrinfeydd Dydd

Yn darparu gofal plant ac addysg gynnar i blant bach hyd at bum mlwydd oed. Maent fel arfer ar agor ben bore tan gyda’r nos o ddydd Llun i ddydd Gwener (a rhai ar ddydd Sadwrn) gydol y flwyddyn. Maent yn cynnig amgylchedd gofalgar, diogel a difyr ac yn gofalu am fabanod a phlant cyn-ysgol am ddiwrnodau cyfan neu’n rhan-amser. Mae rhai ohonynt hefyd yn darparu gofal cyn ac ar ôl amser ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol i blant rhwng pedair a saith oed, ac weithiau rhai hŷn.

Mae’n rhaid i bob meithrinfa ddydd gael tystysgrif cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru a chael ei harolygu ganddynt. Mae’n rhaid hefyd cael tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a’r dystysgrif briodol o ran hylendid bwyd. 

Mae gan y rhan fwyaf o feithrinfeydd dydd gyfleusterau i baratoi bwyd ar gyfer y plant sy’n cael gofal yno. Dylent ddarparu bwydlen dros dair wythnos o leiaf gan gynnwys bwyd o ansawdd da, a darparu byrbrydau priodol yn ôl faint o amser y mae’r plentyn yn ei dreulio yno yn ystod y dydd.

Mae’r tâl ar gyfer meithrinfeydd dydd yn amrywio.

Cylchoedd Chwarae/Cylchoedd Meithrin

Mae’r rhain wedi’u hanelu’n bennaf at blant rhwng dwy a hanner a phum mlwydd oed, fel arfer am ddwy neu dair awr yn y bore neu’r prynhawn yn ystod tymor yr ysgol. Maent yn cynnig lleoedd diogel a difyr i blant chwarae, dysgu a chymdeithasu gyda’i gilydd.

Mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rhan flaenllaw wrth redeg cylchoedd chwarae, ac yn aml yn aelodau o’r pwyllgorau rheoli. Mae’r Cylchoedd Meithrin yn gylchoedd chwarae Cymraeg sy’n rhoi cyfle i blant ddysgu drwy chwarae. Mae croeso i blant o deuluoedd di-Gymraeg ddod i’r Cylchoedd, i elwa ar ddysgu bod yn ddwyieithog.

Gofal Cofleidiol/Cylchoedd Chwarae Estynedig/Cylchoedd Meithrin Plws

Mae rhai darparwyr yn cynnig yr hyn a elwir yn ‘Ofal Cofleidiol’ ar ben unrhyw ddarpariaeth Cylch Chwarae, Cylch Meithrin, Addysg Gynnar neu Feithrinfa Cyfnod Sylfaen. Darperir hyn ar gyfer hanner arall y diwrnod ysgol. Gall grwpiau ddarparu gofal am hyd at bedair awr.

Clwb Tu Allan i Ysgol

Cynhelir y rhain cyn ac ar ôl ysgol, ac yn ystod y gwyliau. Mae rhai ohonynt yn digwydd yn yr ysgol, ac eraill mewn mannau cymunedol fel canolfannau chwaraeon. Lle bo’n briodol, caiff clybiau eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae ganddynt staff cymwys neu hyfforddedig sy’n goruchwylio’r plant cyn i’w rhieni neu’u gofalwyr ddod i’w nôl nhw.

Yn aml iawn mae gan glybiau a gynhelir mewn ysgolion leoedd i ddisgyblion ysgolion eraill. Os nad oes clwb yn ysgol eich plentyn chi, efallai y byddai’n werth cysylltu â chlwb arall yn yr ardal i weld a oes lle i’ch plentyn yno.