Mae’r hysbysiad preifatrwydd gwefan hwn yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi ar-lein a’r gweithdrefnau sydd gennym mewn lle i ddiogelu eich preifatrwydd.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. O dan y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi.

Eich caniatâd

Drwy gyflwyno eich gwybodaeth, rydych yn caniatáu i ddefnydd y wybodaeth honno fel y nodir yn yr hysbysiad hwn. Os byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn, byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y dudalen hon. Bydd defnydd parhaus o’r gwasanaeth yn golygu eich bod yn cytuno i unrhyw newid o’r fath.

Defnyddwyr 16 mlwydd oed ac iau

Os ydych chi’n 16 mlwydd oed neu’n iau, mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich rhiant / gwarcheidwad cyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ar ein gwefan. Ni chaniateir i ddefnyddwyr heb ganiatâd ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol.

Gwybodaeth y gallwn ei chasglu amdanoch chi

Nid ydym yn casglu a chadw unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan hon, heblaw lle dewiswch roi gwybodaeth bersonol i ni yn wirfoddol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost neu drwy ddefnyddio ffurflen electronig ar y wefan, drwy danysgrifio i dderbyn gwybodaeth neu drwy holi am unrhyw un o’n gwasanaethau.

Yn yr amgylchiadau hyn dim ond i roi’r wybodaeth neu wasanaeth y gofynnwyd amdanynt y defnyddir yr wybodaeth bersonol a ddarparwyd os na nodir dibenion ehangach ar y ffurflen y darperir yr wybodaeth neu adeg casglu ar y wefan – ac os felly gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer unrhyw un o’r dibenion ehangach hyn.

Gweler mwy o fanylion ar sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Cam-drin parthau Wrecsam

Cyngor Wrecsam yw’r cofrestrydd ar gyfer nifer o barthau. Parthau a reolir gan Wrecsam:

  • Wrexham.gov.uk
  • Wrecsam.gov.uk
  • Wrexham.sch.uk

Defnyddiwch y manylion canlynol i gysylltu â ni am unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig ag enw parth sydd gennych, dylech ddisgwyl derbyn ymateb o fewn y diwrnod, a dim mwy na 5 diwrnod. webmaster@wrexham.gov.uk

Cynnwys sarhaus neu amhriodol

Os fyddwch chi’n cyhoeddi neu’n anfon cynnwys sarhaus, amhriodol neu annymunol atom ni neu fel arall yn cymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad aflonyddgar ar unrhyw un o'n gwasanaethau, gan gynnwys sianeli cyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i atal ymddygiad o'r fath.

Lle rydym yn credu'n rhesymol eich bod yn, neu y gallech dorri unrhyw gyfraith genedlaethol neu ryngwladol, efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i hysbysu trydydd parti perthnasol megis darparwyr sianel cyfryngau cymdeithasol neu asiantaethau gorfodi'r gyfraith ynglŷn â’r cynnwys a’ch ymddygiad.

Hysbysebu

Mae Rhwydwaith Hysbysebu'r Cyngor yn gyfrifol am gyflwyno hysbysebion ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cymerwch eiliad i ddarllen polisi preifatrwydd Rhwydwaith Hysbysebu'r Cyngor (dolen gyswllt allanol) sy'n cynnwys gwybodaeth am cwcis a manylion ar sut i optio allan. Gallwch newid eich dewisiadau o ran caniatâd hysbysebu yn defnyddio’r adnodd caniatâd preifatrwydd sydd ar gael ar bob tudalen.

Data ystadegol

Gallwn hefyd ddefnyddio gwybodaeth ac ystadegau cronnol ar gyfer monitro defnydd o’r wefan i’n helpu i ddatblygu’r wefan a’n gwasanaethau. Gallwn ddarparu gwybodaeth gronnol o’r fath i drydydd parti. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod.

Cadw

Dim ond cyhyd ag sydd angen ar gyfer y diben y cafodd ei chasglu y byddwn yn cadw eich gwybodaeth. Am fwy o wybodaeth, gweler ein polisi cadw cofnodion corfforaethol.

Datgeliad

Ni chaiff gwybodaeth bersonol ei datgelu i drydydd parti os na nodir hynny ar dudalen y wefan a/neu ffurflen berthnasol ar adeg casglu’r wybodaeth neu fel sydd angen neu a ganiateir gan y gyfraith.

Defnyddio cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon. Mae cwci yn ffeil testun sy’n galluogi’n gweinyddwr i adnabod eich cyfrifiadur. Nid yw’r cwcis yn adnabod y defnyddiwr unigol, dim ond y cyfrifiadur a ddefnyddiwyd.

Ni ddefnyddir cwcis i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol.

Cewch gyfle i osod eich cyfrifiadur i dderbyn pob cwci, i’ch hysbysu pan gyhoeddir cwci neu i beidio â derbyn cwcis ar unrhyw amser. Mae’r ffordd y gwnewch hyn yn dibynnu ar ba borwr gwe a ddefnyddiwch. Dylech gyfeirio at swyddogaeth help eich porwr.

Os ydych yn derbyn cwcis, gallant aros ar eich cyfrifiadur am flynyddoedd lawer, os nad ydych yn eu dileu. Dylid nodi y gall troi cwcis i ffwrdd gyfyngu eich defnydd o’n gwefan a gwasanaethau gwefan.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, ewch i sut mae gwefannau’r llywodraeth yn defnyddio cwcis (dolen gyswllt allanol) a Cwcis - Mae’ch data chi’n cyfrif (dolen gyswllt allanol).

Sut rydym ni’n diogelu eich gwybodaeth

Caiff yr holl wybodaeth bersonol a gesglir ar y wefan hon ei chofnodi mewn cronfa ddata ddiogel.

Mae gofyn i’n holl weithwyr a phroseswyr data, sydd â mynediad i neu sy’n gysylltiedig â phrosesu gwybodaeth bersonol, barchu cyfrinachedd yr wybodaeth honno.

Rydym yn sicrhau na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i sefydliadau ac awdurdodau llywodraethol oni bai bod angen neu a ganiateir hynny gan y gyfraith.

Diogelwch e-bost

Dylid nodi, os nad ydynt wedi’u hamgryptio, efallai nad yw negeseuon e-bost a anfonir drwy’r rhyngrwyd yn ddiogel a gallai rhywun arall eu rhyng-gipio a’u darllen. Gofynnir i chi gadw hyn mewn cof wrth benderfynu p’un ai i gynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif mewn unrhyw negeseuon e-bost y bwriadwch eu hanfon.

Diogelu Data

Byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol.

Os hoffech chi gael mynediad at wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r wefan hon dylech gysylltu â FOI@wrexham.gov.uk a chynnwys manylion am yr wybodaeth yr ydych ei hangen (am fwy o wybodaeth gweler eich gwybodaeth bersonol)

Os oes gennych ymholiad neu bryder ynglŷn â phrosesu data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio DPO@wrexham.gov.uk.

Os ydych yn parhau’n anfodlon ar ôl codi mater am y polisi hwn a/neu gais i gael mynediad at wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r safle, gallwch hefyd gysylltu â:

Y Comisiynydd Gwybodaeth (The Information Commissioner)
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

www.ico.org.uk (dolen gyswllt allanol)