Ionawr 15 2021

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Cyfeiriad 
  • Dyddiad Geni 
  • Oedran
  • Rhifau Ffôn Cyswllt
  • Cyfeiriad e-bost 
  • Teitl y Swydd (os yn berthnasol)
  • Disgrifiad o’r swydd (os yn berthnasol)
  • Enw a chyfeiriad y gweithle (os yn berthnasol) 
  • Gwybodaeth Iechyd  
    • Symptomau
    • Profion (os yn berthnasol)
    • Derbyniadau i'r ysbyty (os yn berthnasol)
    • Cyfnod heintus
  • Cysylltiadau cartref
  • Cysylltiadau nad ydynt o’r cartref
    • Cysylltiad uniongyrchol
    • Cysylltiad agos
    • Teithwyr rhyngwladol
    • Teithwyr rhyngwladol (o wledydd wedi’u heithrio)
  • Rhif yswiriant gwladol

Asiantaethau y gallem rannu’r wybodaeth â nhw

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Sefydliadau Trydydd Sector (megis Meddygon Teulu)
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • GIG Digidol
  • NHS England / NHS Improvement
  • UK Biobank
  • Data Cymru

Pwrpas prosesu

  • Deall Covid-19 a’r peryglon i iechyd y cyhoedd, tueddiadau Covid-19 a pheryglon o’r fath, a rheoli ac atal lledaeniad Covid-19 a pheryglon o’r fath; 
  • Adnabod a deall gwybodaeth am gleifion neu gleifion posibl sydd â Covid-19 neu mewn perygl o fod â Covid-19, gwybodaeth am ddigwyddiadau lle daeth claf i gysylltiad â Covid-19 a rheoli cleifion sydd â Covid-19 neu mewn perygl o gael Covid-19 yn cynnwys: lleoli, cysylltu, sgrinio a monitro cleifion o’r fath a chasglu gwybodaeth amdanynt a darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â phrofi, diagnosis, hunan-ynysu, ffitrwydd i weithio, triniaeth, ymyraethau meddygol a chymdeithasol a gwella o Covid-19; 
  • Deall gwybodaeth am fynediad cleifion at wasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r angen am ofal ehangach i gleifion a grwpiau diamddiffyn o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i Covid-19 ac argaeledd a chapasiti’r gwasanaethau neu’r gofal hynny; 
  • Monitro a rheoli’r ymateb i Covid-19 gan gyrff iechyd a gofal cymdeithasol a’r Llywodraeth yn cynnwys darparu gwybodaeth i’r cyhoedd am Covid-19 a’i effeithiolrwydd a gwybodaeth am gapasiti, meddyginiaethau, cyfarpar, cyflenwadau, gwasanaethau a’r gweithlu o fewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol; 
  • Darparu gwasanaethau i gleifion, clinigwyr, gweithlu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r cyhoedd mewn cysylltiad â Covid-19, yn cynnwys darparu gwybodaeth, nodiadau ffitrwydd a darparu gofal iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol; 
  • Taliadau mewn cysylltiad â Covid-19; a 
  • Ymchwilio a chynllunio mewn cysylltiad â Covid-19.

Sail gyfreithiol

Data Personol

  • Erthygl 6(d) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol i amddiffyn eich buddiant allweddol i fywyd
  • Erthygl 6(e) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol i gyflawni tasg gyhoeddus

Data categori arbennig

  • Erthygl 9(2)(g) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol budd sylweddol i’r cyhoedd
  • Erthygl 9(2)(h) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau neu wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol 
  • Erthygl 9(2)(i) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol amddiffyn iechyd y cyhoedd 
  • Erthygl 9(2)(j) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol dadansoddi gwybodaeth at ddibenion ystadegol 

Dolenni allanol