Pwyllgor Safonau Hysbysiad o Benderfyniad 

Ar 12 Ionawr 2023, cynhaliodd y Pwyllgor Safonau wrandawiad i gŵyn a wnaed yn erbyn y Cynghorydd Sir Paul Rogers. Penderfynodd y Pwyllgor bod y Cynghorydd Rogers wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig, a chafodd ei wahardd am dri mis. 

Apeliodd y Cynghorydd Paul Rogers yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor. Cyhoeddodd Panel Dyfarnu Cymru nodyn penderfyniad ar 15 Chwefror 2023. Roedd Llywydd y Panel Dyfarnu o’r farn bod y cais wedi’i wneud yn rhy hwyr.  

Felly, mae’r Cynghorydd Paul Rogers wedi’i wahardd rhag bod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Cymuned Brymbo am dri mis, o 16 Chwefror 2023.

Darperir copïau papur o’r Penderfyniad ar gais hefyd, yn Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY. Bydd mynediad i Benderfyniad y Pwyllgor Safonau, boed ar ffurf electronig, archwiliad neu lungopi, ar gael am gyfnod o 21 diwrnod, gan ddechrau ar 2 Mawrth 2023. Gofynnir i unrhyw un sy’n dymuno archwilio’r Penderfyniad ffonio 01978 292206.

Linda Roberts, Swyddog Monitro, 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.