Mae’r rhent rydych yn ei dalu yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth rheoli tai ac atgyweirio o ansawdd da i holl denantiaid.
Mae’n amod eich tenantiaeth a’ch cyfrifoldeb i sicrhau bod rhent yn cael ei dalu’n rheolaidd. Os na fyddwch yn gallu talu eich rhent ar unrhyw adeg dylech gysylltu â’ch swyddfa tai lleol gynted â phosibl.
Sut allaf dalu fy rhent?
Gallwch dalu eich rhent ar-lein yn ogystal â drwy...
Derbyn Uniongyrchol
Gallwch dalu gyda debyd uniongyrchol misol – yn daladwy ar 1 neu 16 o bob mis (dyma'r ffordd hawsaf i chi ac i ni) neu drwy ddebyd uniongyrchol wythnosol. Gallwch gysylltu â’ch swyddfa tai lleol am fanylion a ffurflenni.
Cerdyn llithro rhent
Gallwch hefyd ddefnyddio cerdyn llithro rhent a gyflenwyd gan wasanaethau tai i dalu mewn safleoedd PayPoint, Swyddfeydd Post a swyddfeydd tai.
Ni fydd taliadau a wnaed ar ôl dydd Iau yn cyrraedd eich cyfrif rhent nes yr wythnos ganlynol.
Ffôn
Ffoniwch 0300 333 6500 a defnyddiwch y cyfarwyddiadau awtomatig i dalu gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd. Mae hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Yn bersonol
Gallwch dalu gydag arian parod, cerdyn llithro rhent, cerdyn debyd neu gredyd yn eich swyddfa tai leol.
Ni fydd taliadau a wnaed yn eich swyddfa dai leol yn cyrraedd eich cyfrif rhent tan y diwrnod canlynol.
Budd-Dal Tai/Elfen Dai Credyd Cynhwysol
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio Budd-Dal Tai neu elfen Costau Tai o Gredyd Cynhwysol (dolen gyswllt allanol) i’ch helpu i dalu eich rhent.
Nid yw Budd-Dal Tai na’r Elfen Dai o Gredyd Cynhwysol yn cynnwys trethi dŵr, ffioedd carthffosiaeth, ffioedd gwresogi, ffioedd yswiriant na rhent garej. Os bydd unrhyw un o’r ffioedd hyn wedi eu cynnwys yn eich rhent gros yna mae’n rhaid i chi eu talu.
Gall newidiadau yn eich amgylchiadau personol effeithio ar faint o rent ydych yn ei dalu. Dylech adael i ni wybod am unrhyw newidiadau ar unwaith i osgoi ychwanegu unrhyw ôl-ffioedd. Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol byddwch angen diweddaru eich dyddlyfr.
Eich cyfrifoldeb chi hefyd yw sicrhau bod eich hawliad am Fudd-Dal Tai neu Gredyd Cynhwysol (dolen gyswllt allanol) yn cael ei adnewyddu’n gyflym os bydd ei angen.
Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn talu fy rhent?
Rydym yn deall y gall pobl wynebu ôl-ddyledion rhent am bob math o resymau.
Os na fyddwch yn gallu gwneud eich taliadau rhent am unrhyw reswm, peidiwch ag anwybyddu’r broblem gan y bydd ond yn gwneud pethau’n waeth. Dylech gysylltu â’ch swyddfa tai leol ar unwaith os byddwch yn cael problemau talu eich rhent ar unrhyw adeg.
Bydd swyddog tai yn trafod y sefyllfa mewn modd sensitif ac yn helpu i nodi’r rhesymau am beidio talu. Yna bydd disgwyl i chi drefnu i dalu’r ôl-ddyledion.
Beth bynnag yw eich rheswm dros beidio talu eich rhent, mae’n bwysig eich bod yn cadw at eich trefniadau ad-dalu. Mae eich cyfrif rhent yn cael ei fonitro’n wythnosol, ac os na fyddwch yn cadw at eich trefniadau i glirio’r ôl-ddyledion, bydd yn rhaid i’ch swyddog tai ystyried camau pellach. Bydd yn rhaid i chi dalu cost unrhyw gamau cyfreithiol a gymerwyd gennym ni.
Os byddwch yn ddi-gartref o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent efallai na fydd gennym ddyletswydd gyfreithiol i'ch ailgartrefu.
Sut mae’r broses gyfreithiol yn gweithio ar gyfer delio gydag ôl-ddyledion
Y cam cyntaf
Tenantiaeth ddiogel– byddwch yn derbyn 'Hysbysiad Ceisio Meddiant' sy’n rhoi 28 diwrnod i chi wneud trefniadau ar gyfer ad-dalu’r ôl-ddyledion. Mae’r hysbysiad yn ddilys am 12 mis yn dilyn y cyfnod hwn. Yn ystod yr amser hwn, gallwn wneud cais i'r llys sirol am orchymyn i’ch troi allan o’ch cartref.
Tenantiaid cychwynnol – byddwch yn derbyn ‘Hysbysiad Terfynu’ sydd hefyd yn ddilys am 12 mis ond mae’n rhoi 14 diwrnod i ymgeisio am adolygiad o'n penderfyniad i'ch troi chi allan. Bydd y panel adolygu yn penderfynu os gall eich tenantiaeth barhau, ar ôl clywed yr holl ffeithiau. Os gwneir penderfyniad i ddod â’ch tenantiaeth i ben, byddwn yn gwneud cais i’r llys sirol am orchymyn i’ch troi chi allan o’ch cartref.
Ail gam
Y cam nesaf o’r broses gyfreithiol yw’r gwrandawiad llys. Byddwch yn cael eich hysbysu ymlaen llaw o ddyddiad y gwrandawiad llys ac mae’n bwysig eich bod yn mynychu.
Tenaniaeth Ddiogel – yn y gwrandawiad llys byddwn yn gofyn am orchymyn ildio meddiant i’ch troi allan o’ch cartref. Fodd bynnag, efallai y bydd y llys yn penderfynu atal gorchymyn dros dro os byddwch yn cadw at delerau’r gorchymyn hwn, byddwch yn cael aros yn eich cartref. Byddwch hefyd yn gorfod talu costau unrhyw achos llys. Bydd y gorchymyn llys yn ddilys nes bydd yr holl ôl-ddyledion a holl gostau llys sydd heb eu casglu yn cael eu talu'n llawn Bydd lleiafswm costau llys fydd yn ddyledus gennych yn £156.
Tenaniaeth ddiogel – yn y gwrandawiad llys byddwn yn gofyn am orchymyn ildio meddiant i’ch troi allan o’ch cartref. Nid oes dewis i atal y gorchymyn hwn. Byddwch yn gorfod talu costau unrhyw achos llys. Mae hwn yn leiafswm o £352.
Cam terfynol
Cam terfynol y broses gyfreithiol yw’r troi allan, mae hwn yn gam olaf a gwneir pob ymdrech i osgoi ailfeddiannu eich cartref. Os byddwch yn cael eich troi allan, byddwch yn parhau’n atebol am y swm llawn o ôl-ddyledion a’r holl gostau llys.
Tenantiaeth ddiogel – os na fyddwch yn talu yn dilyn cyfarwyddyd y llys, gallwn ymgeisio am warant troi allan heb wrandawiad pellach yn y llys. Byddwch yn gorfod talu cost hyn. Byddwch yn cael gwybod y dyddiad troi allan a’r weithdrefn ar y dyddiad hwnnw.
Tenantiaeth gychwynnol – yn dilyn y gwrandawiad llys byddwch yn cael gwybod y dyddiad troi allan a’r weithdrefn ar y dyddiad hwnnw.