Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phreswylwyr a’u cefnogi i gymryd rhan mewn materion tai a’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. 

Rydym ni’n cydnabod bod angen i gyfranogiad effeithiol gynnwys amrywiaeth eang o bobl yn cymryd rhan mewn llawer o wahanol weithgareddau.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Trwy rannu eich barn ynglŷn â sut yr ydych yn meddwl y gallem ddarparu gwell gwasanaethau tai gallech fod o gymorth uniongyrchol i ysgogi’r newidiadau yr ydych yn credu sydd eu hangen yn eich cymuned chi.

Ein nod yn y pen draw yw annog mwy o breswylwyr, lesddeiliaid a budd-ddeiliaid i gymryd rhan weithredol yn ein proses gwneud penderfyniadau.

Ymgynghori â chi am ein perfformiad a’n cynlluniau

Yn unol â’r gyfraith, mae’n rhaid i ni ymgynghori â chi ynghylch:

  • Unrhyw addasiadau yr ydym ni’n bwriadu eu gwneud i’ch Contract Meddiannaeth.
  • Unrhyw waith moderneiddio neu welliannau yr ydym ni’n bwriadu eu gwneud i’ch cartref.
  • Unrhyw newidiadau yn y ffordd yr ydym yn rheoli’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i chi e.e. amseroedd ymateb i geisiadau am waith atgyweirio neu gyfrifoldebau atgyweirio’r deiliad contract.

Efallai y byddwn ni’n ymgynghori â chi drwy:

  • Ymweliadau cartref
  • Llythyrau
  • Arolygon
  • Cyfarfodydd, diwrnodau agored neu arddangosfeydd.
  • Ein newyddlen ‘Trafodion Tai’
  • Platfformau’r cyfryngau cymdeithasol

Sut alla i gymryd rhan?

Rydym yn deall y gall dulliau arferol o gyfranogiad tenantiaid (e.e. bod yn aelod o bwyllgor) gymryd llawer iawn o amser ac egni. Mae hyn yn addas ar gyfer rhai pobl, ond os ydych chi’n rhy brysur, neu os ydych chi am rannu eich barn am bynciau penodol yn unig o bryd i’w gilydd, mae modd i chi gymryd rhan o hyd.

Sut i gymryd rhan

Mae llawer o ffyrdd gwahanol i gymryd rhan:

  • Grwpiau gwella gwasanaeth
  • Siopa cudd / archwiliadau deiliaid contract
  • Digwyddiadau deiliaid contract
  • Cronfa ddata cyfranogiad deiliaid contract

Gallech hefyd gymryd rhan trwy ymuno â’r grwpiau canlynol...
 

Partneriaeth Tenantiaid ac Aelodau Wrecsam

Mae’r grŵp yn cynnwys 12 preswylydd a 10 Cynghorydd sy’n cyfarfod yn eithaf rheolaidd i edrych ar pa mor dda y mae gwasanaethau’n perfformio (yn enwedig sut y caiff gwasanaethau tai eu darparu).

Gweledigaeth y bartneriaeth yw nodi a datrys materion sy’n effeithio ar breswylwyr. 

Amcanion y grŵp yw:

  • Craffu ar berfformiad ein gwasanaeth tai a’i fonitro
  • Dylanwadu ar newid
  • Darparu’r gwasanaeth gorau i’n preswylwyr

Cofnodion cyfarfodydd 

Gallwch wneud cais am gofnodion cyfarfodydd blaenorol trwy gysylltu â’n Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid.

Grwpiau/Cymdeithasau preswylwyr

Grwpiau o denantiaid, lesddeiliaid a phreswylwyr yw’r rhain sy’n gweithio mewn maes penodol. Gall y maes hwn gynnwys ystâd leol, neu un bloc neu stryd. Maen nhw ar agor i bawb sy’n byw o fewn ei ffiniau. 

Eu nod nhw yw gwella ardaloedd a sefydlu partneriaethau â ni (y Cyngor), yr Heddlu, ysgolion a gwasanaethau lleol eraill i’w gwneud yn lleoedd gwell i fyw. Mae’r grwpiau hyn yn gallu ei gwneud yn haws i gasglu gwybodaeth am faterion lleol a mynd i’r afael â nhw. Maen nhw hefyd yn werthfawr o ran sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ag aelodau eraill o’r gymuned.

Gall cymdeithasau preswylwyr wneud cais am gyllid grant gennym ni (os caiff meini prawf penodol eu bodloni). Gallwch gysylltu â’n Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid i gael rhagor o wybodaeth. 

Ar hyn o bryd, mae cymdeithasau gweithredol yn yr ardaloedd canlynol:

  • Afon
  • Barracksfield
  • Bryn Offa
  • Bryn y Brain (Rhos)
  • Brymbo 
  • Cefn a’r Cyffiniau
  • Cylch Kingsley
  • Stryt Nelson / Sgwâr Napier
  • Pant (Rhos)
  • Pentre Maelor
  • Pen-y-Cae
  • Pentre Gwyn / Tanycoed
  • Rhosnesni
  • Rhiwabon
  • Springlodge
  • Whitegate

Os nad oes grŵp yn eich ardal chi, beth am ddechrau un?

Os hoffech chi ddechrau cymdeithas breswylwyr, ond nad ydych chi’n siŵr sut i fynd ati, gallwch gysylltu â’n Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid a fydd yn gallu darparu cyngor a chymorth.

Trwy gofrestru eich grŵp, gallwch sicrhau bod ganddo rôl ffurfiol yn y broses cyfranogiad preswylwyr.

Hawl i Reoli

Gall sefydliadau preswylwyr gymryd cyfrifoldeb dros reoli eu cartrefi. Gelwir hyn yn ‘Hawl i Reoli’. 

Os gall sefydliad rheoli preswylwyr ddangos eu bod yn gynrychioliadol o’r preswylwyr yn eu hardal a’i fod hefyd yn atebol, gall arfer yr Hawl i Reoli. 

Mae bod â’r Hawl i Reoli fel sefydliad rheoli preswylwyr yn golygu y gallwch gymryd cyfrifoldeb dros y rhan fwyaf o reolaeth dydd i ddydd eich ardal, neu gallwch ddewis bod yn gyfrifol am rai swyddogaethau penodol. 

Gall y broses gymryd rhai blynyddol i’w threfnu a chyn y gall ddod i rym, bydd gan breswylwyr yr hawl i bleidleisio ynghylch a ydynt yn teimlo y dylai’r sefydliad preswylwyr reoli unrhyw wasanaeth ai peidio.  

Cofiwch, hyd yn oed os oes gennych Hawl i Reoli, ni (y cyngor) fydd yn berchen ar eich eiddo o hyd. Cewch fwy o wybodaeth am yr Hawl i Reoli gan eich swyddfa tai leol

Fforwm Preswylwyr Wrecsam

Mae’r fforwm hwn yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn, ac mae ar agor i unrhyw un o’n preswylwyr neu’n lesddeiliad. Mae’r grŵp yn edrych ar wasanaethau tai ac mae’n darparu adborth sy’n dylanwadu ar le fyddwn ni’n canolbwyntio ein hymdrechion.

Mae’r fforwm yn grŵp adborth allweddol, sydd wedi datblygu i weithio gyda ni wrth adolygu ein gwasanaethau tai.

Grwpiau adolygu/ffocws

Mae nifer o grwpiau preswylwyr yn cwrdd â swyddogion i adolygu’r gwahanol wasanaethau yr ydym yn eu darparu, e.e. sut yr ydym yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwaith atgyweirio eiddo gwag a gwaith trwsio cyffredinol.

Trwy weithio gyda’n preswylwyr yn y grwpiau adolygu hyn, rydym wedi cyflawni newidiadau fel:

  • System apwyntiadau ar gyfer gwaith atgyweirio
  • Derbynebau ar gyfer gwaith atgyweirio ac arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid
  • Safon atgyweirio diwygiedig wrth ail-osod eiddo, sef y ‘safon gosod’
  • Gweithdrefn ddyrannu ddiwygiedig ar gyfer gosod eiddo i ymgeiswyr
  • Cyflwyno PayPoint a thaliadau swyddfa'r post

Gellir darparu cludiant i’r cyfarfodydd ac oddi yno.

Os hoffech chi gael rhagor o fanylion am grwpiau adolygu, gallwch gysylltu â’n Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid.

Grŵp golygu’r newyddlen preswylwyr

Grŵp o breswylwyr yw hwn sy’n helpu i sicrhau bod y newyddlen chwarterol yn hawdd i’w darllen ac yn rhoi barn ar bethau yr hoffai pobl ddarllen yn eu cylch. Maen nhw hefyd yn cyfarfod bob mis i adolygu gwybodaeth arall i gwsmeriaid a gaiff ei chynhyrchu gan yr adran dai. Mae rhai preswylwyr yn dewis bod yn ohebwyr lleol ac maen nhw’n ysgrifennu erthyglau am faterion lleol ar gyfer y newyddlen.

Os hoffech chi gael rhagor o fanylion am ein grŵp adolygu’r newyddlen, gallwch gysylltu â’n Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid.

Cymdeithas preswylwyr llety gwarchod

Mae hwn yn grŵp o breswylwyr llety gwarchod sy’n cyfarfod bob dau fis i drafod materion sy’n benodol berthnasol i breswylwyr llety gwarchod.

Gellir darparu cludiant i’r cyfarfodydd ac oddi yno.

Os hoffech chi gael rhagor o fanylion am y gymdeithas preswylwyr llety gwarchod, gallwch gysylltu â’n Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid.

Gallai cymryd rhan hefyd olygu rhoi gwybod i ni beth yw eich barn ar bwnc penodol drwy lenwi a dychwelyd holiadur neu arolwg. Rydym yn gofyn am adborth ar bopeth, o newidiadau polisi mawr i’n gwasanaethau dydd i ddydd.

Fel aelod o’r cyhoedd, mae gennych hawl i fynd i wrando ar gyfarfodydd ein Bwrdd Gweithredol a’n Pwyllgor Craffu, lle mae Cynghorwyr yn penderfynu sut mae’r gwasanaeth tai yn cael ei redeg a’i reoli. 
 

Os hoffech chi gael copi o’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Lesddeiliad, gallwch wneud cais amdani gan ein Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid.

Cysylltwch â’n Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid

Ebost: getinvolvedinhousing@wrexham.gov.uk