Lle ydyn ni arni bellach?

Fel eich landlord mae’n bwysig ein bod yn gwybod sut rydych yn teimlo am eich cartref, eich cymdogaeth, a’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i chi. Bob dwy flynedd rydym yn cynnal arolwg i ganfod gwybodaeth allweddol gennych chi, ac rydym wedyn yn defnyddio’r wybodaeth honno i helpu i siapio’n gwasanaethau. 

Cynhaliwyd yr arolwg diwethaf yn 2023. Fe wnaethom dderbyn 889 o ymatebion, sydd yn gyfwerth ag oddeutu 8% o’n tenantiaid. Dyma grynodeb o’r cwestiynau craidd a ofynnwyd yn 2023 a’r canran o’r rheiny a ymatebodd a oedd yn fodlon. 

Ymatebion boddhad tenantiaid 

Ymatebion
Cwestiwn craidd% o ymatebwyr
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?75%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar ansawdd cyffredinol eich cartref?72%
Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw?63%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich cymdogaeth fel lle i fyw? 83%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn cynnig gwerth am arian?72%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y ffioedd a godir am wasanaethau yn cynnig gwerth am arian?59%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt?59%
Gan feddwl am eich cartref yn benodol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn darparu cartref sy'n ddiogel?75%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?61%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y cyfleoedd sy'n cael eu rhoi ichi gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau eich landlord cymdeithasol?45%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn rhoi cyfle ichi ddweud eich dweud am y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu rheoli?41%
I ba raddau yr ydych chi'n cytuno â'r datganiad canlynol - "Rwy'n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol"61%