Mae pwmp gwres yr awyr yn disodli eich boeler nwy traddodiadol gwres canolog neu wresogydd storio trydan. Y nod yw cael gwres cyson a charbon isel drwy'r cartref, drwy gydol y flwyddyn.

Mae gan y pympiau hyn hyd oes hir ac maen nhw’n rhwydd i’w cynnal a chadw yn gyffredinol. Drwy eu cynnal a chadw nhw’n flynyddol, gall pwmp gwres weithredu am hyd at 15 mlynedd neu fwy.

Beth fyddaf angen ei wneud unwaith y byddaf wedi gosod pwmp gwres? 

Bydd gennych thermostat yn eich cartref - efallai y bydd yn newid i fath gwahanol ond bydd yn gweithio mewn ffordd debyg. 

Yr oll fyddwch chi angen ei wneud yw ei osod i’r tymheredd o’ch dewis, yna gadael y system i gynnal tymheredd sefydlog trwy gydol y cartref.

Efallai y bydd angen i chi newid y tymheredd yn gyntaf, i ganfod eich tymheredd dymunol gan y bydd pob cartref yn dosbarthu gwres yn wahanol.  

Y nod yw rhyddhau gwres isel a chyson yn eich cartref, yn hytrach na rhoi’r gwres ymlaen ar dymheredd uchel am gyfnodau byrrach pan fydd hi’n oer.

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n gadael y pwmp gwres a’r dŵr poeth ymlaen yn barhaol, oherwydd pan fydd y tymheredd wedi cyrraedd y tymheredd dymunol, bydd yn diffodd.  

Bydd troi’r pwmp gwres ymlaen ac i ffwrdd yn gwneud iddo weithio’n galetach, a fydd yn defnyddio mwy o ynni.

Rhowch wybod i’r darparwr ynni bod gennych chi system gwresogi ffynhonnell aer, gan fod rhai cyflenwyr yn darparu tariff pwmp gwres.

Defnyddio’ch thermostat

Mae’r thermostatau yn y rhan fwyaf o’n heiddo yn defnyddio ‘System Neomitis’. 

Ar y system hon mae’r sgrîn arddangos yn dangos:

  • tymheredd presennol yr ystafell yn nhop y sgrin
  • tymheredd targed yn y gornel dde ar waelod y sgrin

Mae llithrwr ar ochr y thermostat, ac rydym yn argymell eich bod chi’n cadw hwn yn y canol er mwyn i chi allu addasu eich tymheredd pan fo angen, yn hytrach na’i roi ar ‘Auto’. 

Gosod y tymheredd targed

I godi’r tymheredd targed, trowch y deial i gyfeiriad clocwedd. Bydd troi’r deial i gyfeiriad gwrthglocwedd yn gostwng y tymheredd.

Gall yr amser y mae'r tymheredd presennol yn ei gymryd i gyrraedd y tymheredd targed ddibynnu ar faint o ddrysau sydd ar agor, tywydd tymhorol ac ati. Bydd hyn yn dod yn gliriach po fwyaf y byddwch chi’n ei ddefnyddio. 

Mae rhai cwmnïau ynni yn awgrymu bod 21°C yn dymheredd cyson ar gyfer eich cartref, ond gall hyn ddibynnu'n llwyr ar eich dewisiadau eich hun. 

Cofiwch - ni fydd eich rheiddiaduron chi’n teimlo mor boeth o gymharu â system wresogi boeler nwy traddodiadol. Mae hyn yn normal gan mai prif nodwedd y system pwmp gwres yw cadw tymheredd yr aer yn gyson.

Mwy o wybodaeth

Gallwch anfon e-bost housingrepairs@wrexham.gov.uk yn gofyn am ganllaw estynedig (yn cynnwys eglurhad ar sut y mae’r pwmp gwres yn gweithio). Gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa ystadau tai lleol os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Atgyweirio

Os ydych yn sylwi ar unrhyw ddiffygion rhowch wybod i ni drwy wneud cais am waith atgyweirio