Er ein bod yn darparu tai cyngor ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, nid yw nifer y llety gwag sydd ar gael gennym bob blwyddyn byth yn ddigon i fodloni’r galw.
Er mwyn cael y cyfle gorau i ddod o hyd i rywle addas i fyw, dylech ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael a chyfrifo faint allwch chi fforddio ei dalu.
Mae rhywle y gallwch ei fforddio yn golygu, ar ôl i chi dalu'ch rhent, fod digon o arian ar ôl gennych i allu talu biliau fel bwyd, nwy, trydan, nwyddau ymolchi a'ch ffôn.
Hawlio cymorth ariannol: gwiriwch y terfyn ystafelloedd gwely
Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol, neu Lwfans Tai Lleol, rhaid i chi chwilio am eiddo sydd â’r nifer cywir o ystafelloedd gwely ar eich cyfer chi a’ch teulu.
Y rheswm am hyn yw sicrhau nad oes rhaid i chi dalu am unrhyw ystafelloedd gwely nad ydych yn eu defnyddio drwy reol o'r enw ‘dileu'r Cymhorthdal Ystafell Sbâr’, a elwir hefyd y ‘Dreth Ystafell Wely’.
Fel rheol gyffredinol, gallwch gael un ystafell wely ar gyfer pob person sengl 16 oed neu hŷn, ond mae disgwyl fel arfer i ddau berson rannu ystafell os ydynt:
- yn gwpl
- ill dau o dan 10 oed (waeth beth fo'u rhyw)
- ill dau rhwng 11 ac 16 oed (o'r un rhyw)
Hyd yn oed os ydych yn hawlio budd-dal llawn, byddwch ond yn gallu hawlio cymorth er mwyn talu cost rhentu eiddo sydd ei angen arnoch yn ôl y rheoliadau.
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Yn dibynnu ar eich incwm, os ydych yn rhentu eiddo preifat, gallwch hawlio Lwfans Tai Lleol (LTLl), i’ch helpu i dalu cost y rhent. Mae’r swm y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar faint eich aelwyd a maint yr eiddo.
Cofiwch, os ydych yn berson sengl dan 35 oed, byddwch ond yn gallu hawlio’r LTLl sydd ei angen i dalu cost rhentu ystafell mewn tŷ a rennir.
Cyfraddau LTLl wythnosol (ers mis Mawrth 2024)
Mae'r swm y gallwch ei hawlio bob wythnos i helpu i dalu eich rhent yn dibynnu ar y math o eiddo rydych chi ynddo:
- Llety a rennir: £90.05
- 1 ystafell wely: £109.32
- 2 ystafell wely: £120.82
- 3 ystafell wely: £138.08
- 4+ ystafell wely: £172.60
Os byddwch yn dewis eiddo sydd â rhent sy’n uwch, bydd angen i chi dalu am y gwahaniaeth gan ddefnyddio eich arian eich hun.
Faint o help y byddaf yn ei gael i dalu fy rhent?
Unwaith y byddwch chi'n gwybod faint o ystafelloedd gwely sydd gennych hawl iddynt, gallwch gyfrifo’r swm hwn yn seiliedig ar gyfanswm incwm eich cartref o fudd-daliadau a chyflogau.
Gallwch edrych a chael amcangyfrif o faint y gallech ei gael, drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-dal ar-lein, fel:
Pan fyddwch yn ei lenwi, byddwch mor realistig â phosibl a cheisio cynnwys yr hyn yr ydych yn ei wario mewn gwirionedd
Os oes gennych gar, cofiwch gynnwys cost y dreth, yr yswiriant a’r prawf MOT bob blwyddyn.