Gwneud cais ar-lein

Ymgeisiwch rŵan

 

Ffurflen anghenion arbennig ac asesiad meddygol

Dechreuwch rŵan

Pwy all wneud cais am dŷ?

Gall unrhyw un 16 oed neu hŷn wneud cais am dŷ cyngor ond mae’n rhaid i chi fod yn gymwys i gael eich derbyn ar y Gofrestr Dai.

Nid yw’r bobl ganlynol o dramor yn medru cael eu hystyried ar gyfer tai cyngor...

  • Pobl sy’n destun Rheolaeth Fewnfudo
  • Pobl sydd heb gefnogaeth o gronfeydd cyhoeddus
  • Pobl nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Gyfunol, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon.

Mae ein polisi gwahardd hefyd yn golygu os ydych chi, neu rywun arall sy’n byw ar eich aelwyd, wedi bod yn euog o ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich gwahardd rhag gwneud cais.

Fedrai wneud cais gyda rhywun arall?

Os ydych chi a’ch partner yn gymwys ar gyfer tŷ cyngor, byddwn yn derbyn cais gan y ddau ohonoch. Rydym yn galw hyn yn 'gais ar y cyd'. Os byddwch yn cyflwyno cais ar y cyd, dylech gofio:

  • Bydd y ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu’r rhent a chadw at gytundeb tenantiaeth y cyngor. Os bydd un ohonoch yn torri unrhyw amodau tenantiaeth byddwn yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y ddau ohonoch.
  • Bydd y ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu’r rhent a chadw at amodau’r denantiaeth hyd yn oed os na fydd un ohonoch yn byw yno mwyach. Bydd tenantiaeth ar y cyd ond yn dod i ben os bydd un ochr yn cael archeb llys, neu’n rhoi rhybudd i derfynu’r denantiaeth (mae’n bosibl mai cyfrifoldeb y sawl dan sylw fydd unrhyw gostau llys i ddiweddu tenantiaeth ar y cyd). 
  • Os bydd un ohonoch yn dewis terfynu’r denantiaeth, bydd yn dod i ben i’r ddwy ochr. Byddwn yn gweithio gydag unrhyw gyd denantiaid sy’n weddill i geisio dod i ganlyniad y cytunir arno ond ni allwn warantu y byddwch yn cael eich ailgartrefu neu y byddwch yn gallu aros yn yr eiddo, os er enghraifft, mae’n rhy fawr ar gyfer eich anghenion.

Sut i wneud cais

Bydd arnoch angen cwblhau ffurflen gais am dŷ.

Bydd yn rhaid ichi gynnwys yr holl wybodaeth y mae arnom ei hangen, neu fe gaiff eich ffurflen eich dychwelyd atoch a chaiff eich cais ei ohirio yn sgil hynny.

Os oes gennych broblemau iechyd neu les y dymunwch inni eu hystyried, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen asesu anghenion arbennig a meddygol. Yna byddwn yn ystyried hyn wrth ddelio â’ch cais a’i roi yn nhrefn blaenoriaeth.

Mae’n rhaid i chi hefyd ddarparu dogfennau cywir gyda’r wybodaeth ddiweddaraf i gefnogi eich cais fel prawf o’ch angen am dŷ.

Os byddwch yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, bydd hyn yn golygu oedi cyn cofrestru eich cais ac mae’n bosibl y byddwn yn tynnu unrhyw gynnig a wnaed i chi am lety yn ôl.

Mae’n drosedd i gael tenantiaeth yn seiliedig ar wybodaeth ffug neu gamarweiniol.

Beth os yw fy amgylchiadau’n newid?

Rhowch wybod inni ar unwaith os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Gallai olygu bod eich band blaenoriaeth yn newid. Gall newid yn eich amgylchiadau gynnwys newid cyfeiriad, neu aelod o’r teulu’n ymadael â’r aelwyd neu’n ymuno â hi.

Gallem dynnu cynnig o lety yn ôl os oedd yn seiliedig ar wybodaeth nad yw’n gywir bellach.

A fydd fy nghais yn gallu cael ei roi mewn band gwahanol ar ôl i mi ymgeisio?

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, mae’n bosibl y bydd eich cais yn cael ei roi mewn band gwahanol. Yn dibynnu ar y newid, gall eich cais gael ei roi ar fand uwch neu is.

Os bydd eich cais yn cael ei symud i fand uwch, byddwn yn defnyddio’r dyddiad y newidiodd eich amgylchiadau i flaenoriaethu eich cais. Rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod yn cydnabod bod pobl eisoes wedi bod yn aros yn y band uchaf gydag angen i symud am gyfnod hirach.

Os yw eich cais yn aros yn yr un band neu ei fod yn cael ei symud i un is, ni fydd dyddiad y cais yn newid.

A fedraf ddewis lle i fyw?

Wrth wneud cais am dŷ gallwch nodi’r ardaloedd y byddai’n well gennych fyw ynddynt, a’r math o dŷ a fyddai orau gennych.

Ein nod yw darparu eiddo i ymgeiswyr o faint sy’n bodloni eu hanghenion. Efallai y gallwn gynnig tŷ sy’n fwy na’r hyn sydd ei angen arnoch, ond ni allwn wneud hynny mewn ardaloedd lle mae tai gwag yn brin neu fod galw mawr amdanynt. Cofiwch, os ydych yn meddwl y byddwch yn gallu hawlio Budd-dal Tai, neu os ydych chi eisoes yn ei hawlio, efallai na fyddwch yn cael digon o Fudd-dal Tai i dalu cost lawn y rhent, os yw’r eiddo yn fwy nac y mae rheoliadau’r Llywodraeth yn dweud sydd ei angen arnoch.
 

Math o aelwyd     Math o eiddo
 (*gan ddibynnu ar y galw a’r cyflenwad yn lleol)
Ymgeisydd/ymgeiswyr Sengl
  • Fflat un ystafell
  • Fflat 1 ystafell wely
  • Tŷ 1 ystafell wely
Ymgeisydd/ ymgeiswyr sengl sy’n cael gweld eu plant
  • Fflat 1 ystafell wely
  • Tŷ 1 ystafell wely
  • Fflat 2 ystafell wely
Ymgeisydd a phartner heb blant/neu sy’n cael gweld eu plant
  • Fflat 1 ystafell wely
  • Fflat deulawr 1 ystafell wely
  • Tŷ 1 ystafell wely
  • Fflat 2 ystafell wely
Ymgeisydd / ymgeiswyr ag un plentyn neu blentyn nad yw’n ddibynnol, neu aelwydydd sy’n disgwyl plentyn cyntaf
  • Fflat 2 ystafell wely
  • Fflat deulawr 2 ystafell wely
  • Tŷ 2 ystafell wely
Ymgeisydd/ymgeiswyr gyda 2 neu 3 o blant neu blant nad ydynt yn ddibynnol
  • Fflat 2/3 ystafell wely
  • Fflat deulawr 2/3 ystafell wely
  • Tŷ 2/3 ystafell wely
  • Tŷ 4 ystafell wely (yn dibynnu ar oed y plant)
Ymgeisydd/ymgeiswyr gyda 4 neu fwy o blant neu blant nad ydynt yn ddibynnol
  • Fflat 3 neu 4 ystafell wely
  • Fflat deulawr 3 neu 4 ystafell wely
  • Tŷ 3 neu 4 ystafell wely
Person sengl/cwpl dros 60 oed

Llety 1/ 2 ystafell wely a ystyrir yn addas ar gyfer pob hŷn

Aelwyd gydag aelod o’r teulu’n gorfforol anabl, angen mynediad gwastad neu eiddo wedi’i addasu, yn dibynnu ar natur unrhyw anabledd neu salwch gyda chefnogaeth anghenion Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Eiddo a addaswyd sy’n addas i’w hanghenion, neu eiddo y mae modd ei addasu. Gall hyn gynnwys llety gwarchod, tai â chymorth, byngalos neu lety llawr gwaelod.

 

Tai ar gyfer Anghenion Penodol

Yn ogystal â thai sy’n bodloni anghenion cyffredinol, mae gennym hefyd lety addas ar gyfer ymgeiswyr ag anghenion mwy penodol.

Eiddo wedi’i Addasu

Mae gennym nifer o dai a fflatiau sydd wedi’u haddasu ac rydym yn ceisio dyrannu’r rhain i ymgeiswyr sydd eu hangen yn ôl asesiad. Rydym yn gwneud hyn trwy weithio gydag adrannau eraill y Cyngor, staff tai arbenigol a chymdeithasau tai lleol.

Tai â Chymorth

Mae’r Cyngor yn noddi prosiectau gan bartneriaid i gefnogi pobl ddiamddiffyn a hybu eu lles.

Mae rhestr o’r prosiectau sy’n cael nawdd ar hyn o bryd ar gael ar gais gan y Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam.

Ceisiadau gan denantiaid cyfredol y cyngor

Os ydych eisoes yn denant y cyngor, gallwch wneud cais i symud i eiddo arall, cyn belled nad ydych wedi torri unrhyw un o amodau’r denantiaeth (er enghraifft ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol). Rydym yn galw hyn yn ‘drosglwyddiad’. Os ydych yn gwneud cais i ailgartrefu a bod yna faterion gyda’ch tenantiaeth bresennol byddwn yn ysgrifennu atoch i adael i chi wybod beth yw’r problemau a pha gamau rydych angen eu cymryd.

Beth os wyf eisiau diwygio fy nhenantiaeth?

Os nad ydych yn dymuno symud o’ch cartref presennol ond yn dymuno newid eich tenantiaeth (er enghraifft rydych eisiau etifeddu tenantiaeth, neu gael tenantiaeth ar y cyd gyda’ch cymar, partner sifil neu bartner), cysylltwch â'ch swyddfa ystadau tai lleol. Mae’r ceisiadau hyn yn cael eu trin yn wahanol ac ni fydd angen i chi lenwi ffurflen gais tai.

Map o dai cyngor ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae’r map hwn yn dangos ble mae gennym dai cyngor nid beth sydd ar gael i’w rentu ar hyn o bryd.

Os ydych yn ymgeisio am dai ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn dymuno gwneud nodyn o’r ardal a ffefrir gennych fel nad oes yn rhaid i chi droi tudalennau.

Os ydych wedi penderfynu eich bod yn ddigartref, mae’n bosibl y byddwn yn gallu eich helpu i ddod o hyd i lety drwy landlordiaid cymdeithasol neu breifat arall yn yr ardaloedd a ddangosir ar y map. Cysylltwch â’n Tîm Dewisiadau Tai am hyn.