Mae ein Rhaglen Buddsoddiadau Adfywio wedi’u Targedu yn canolbwyntio ar eiddo preifat sydd ar gyrion nifer o ffyrdd allweddol i mewn i ganol y dref. Mae’r prosiect yn darparu gwelliannau allanol i oddeutu 60 o eiddo ar y  tro. Mae’r lefel o gymorth grant sydd ar gael i adnewyddu eiddo wedi’i gapio i £50,000.

Yn ddibynnol ar y lefel o waith sydd ei angen ym mhob cyfeiriad sy’n cymryd rhan, gall nifer uwch o eiddo gael eu gwella o fewn cyllideb sydd ar gael. Byddai gwaith i eiddo sydd yn cymryd rhan gynnwys o bosibl:

  • To newydd ac adnewyddu insiwleiddiad atig
  • Ail-bwyntio a/neu rendro 
  • Ffenestri a drysau newydd
  • Cafnau Ffasgia a phibellau dŵr
  • Waliau ffin blaen, giatiau mynediad, dreif a llwybrau

Bydd preswylwyr sydd yn berchen efallai yn cael cynnig 70% o gymorth grant ar gyfer cost adnewyddu’r eiddo. Os ydych yn cael budd-daliad sydd yn gysylltiedig ag incwm neu incwm isel, mae gennych y dewis i gwblhau prawf modd os ydych yn dymuno gwneud cais am gymorth grant uwch.

Os ydych yn landlord sector breifat neu’n berchennog eiddo masnachol, nid oes prawf modd a byddwch yn cael cyfraniad grant cymorth o 50% o’r gost yn awtomatig.