Manylion y cwrs: Mae'r cwrs tri diwrnod cynhwysfawr hwn yn cynnwys ystod eang o argyfyngau cymorth cyntaf, gan alluogi pob cyfranogwr i ddelio â sefyllfaoedd brys gyda hyder mewn ffordd brydlon, ddiogel ac effeithiol. Yn ogystal, bydd y cwrs hwn yn cynnwys unrhyw newidiadau protocol a allai fod wedi codi ers eu cwrs hyfforddi diwethaf.
Mae'r cwrs hwn ar wahân i Gymorth Cyntaf Pediatrig ac mae'n cynnwys hyfforddiant penodol ar Gymorth Cyntaf i Oedolion yn y gweithle. Dylai pob lleoliad gael asesiad risg ar gyfer yr holl risgiau a nodwyd sy'n amlygu faint o unigolion y dylid eu hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf yn y Gweithle ar gyfer eich lleoliad. Am ragor o wybodaeth gweler: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Gwybodaeth i gyflogwyr (dolen gyswllt allanol)
- Cyfreithlondeb, cyfrifoldebau ac adrodd
- Delio â pherson anymatebol
- Toriadau ac anafiadau i'r asgwrn cefn
- Ymwybyddiaeth o Ddadebru ac AED
- Asesu’r sefyllfa
- Rheoli gwaedu
- Sioc (gan gynnwys Anaffylacsis)
- Trawiadau ar y galon
- Anafiadau i’r pen
- Straeniadau
- Gwenwyno
- Rhwymo
- Tagu
- Anafiadau i’r llygaid
- Anafiadau i'r frest
- Asthma
- Diabetes
- Strôc
- Llosgiadau
- Epilepsi
Dyddiad: Dydd Llun 23, Dydd Mawrth 24 a Dydd Mercher 25 Mehefin (mae’n rhaid i chi fod yn bresennol ar bob dyddiad)
Amser: 9:30am - 3:30pm
Lleoliad: Dyfroedd Alun
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd
Pris: £20