Cofiwch anfon e-bost at Childcaretraining@wrexham.gov.uk i sicrhau bod lle ar y cwrs cyn talu.

Manylion y cwrs: Dylai’r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn bara o leiaf 12 awr (heb gynnwys seibiannau) a dylai ymdrin â’r elfennau sydd wedi’u rhestru isod:

  • Helpu babi neu blentyn sy'n dioddef o sioc anaffylactig. 
  • Helpu babi neu blentyn sydd wedi cael sioc drydanol. 
  • Helpu babi neu blentyn sydd â llosgiadau neu sgaldiadau. 
  • Helpu babi neu blentyn yr amheuir ei fod wedi torri asgwrn.
  • Helpu babi neu blentyn sydd ag anafiadau i'w ben, ei wddf neu ei gefn. 
  • Helpu babi neu blentyn yr amheuir ei fod wedi'i wenwyno. 
  • Helpu babi neu blentyn sydd â rhywbeth estron yn ei lygad, ei glust neu ei drwyn.
  • Helpu babi neu blentyn sydd ag anaf i'w lygad.
  • Helpu babi neu blentyn sydd wedi’i gnoi neu ei bigo.
  • Helpu babi neu blentyn sy'n dioddef o effeithiau gwres neu oerfel eithafol. 
  • Helpu babi neu blentyn sy’n dioddef: argyfwng diabetig; pwl asthma; adwaith alergaidd; llid yr ymennydd; a/neu ffitiau gwres.
  • Deall rôl a chyfrifoldebau'r swyddog cymorth cyntaf pediatrig (gan gynnwys yr hyn a ddylai fod mewn blwch cymorth cyntaf a'r angen i gofnodi damweiniau a digwyddiadau).

Dyddiad: Dydd Mawrth 13, Dydd Mercher 14, Dydd Mawrth 20 a Dydd Mercher 21 Mai (mae’n rhaid i chi fod yn bresennol ar bob dyddiad) 
Amser: 6:15pm - 9pm
Lleoliad: Church House, The Green, Gresford, LL12 8RG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £20

Dyddiad: dydd Llun 2, dydd Mawrth 3, dydd Llun 9 a dydd Mawrth 10 Mehefin (mae’n rhaid i chi fod yn bresennol ar bob dyddiad) 
Amser: 6:15pm - 9pm
Lleoliad: Church House, The Green, Gresford, LL12 8RG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £20

Archebu

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.

Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.