Manylion y cwrs: Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatreg Sylfaenol wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gofalu am blant, yn cynnwys gweithwyr Gofal Plant proffesiynol. Mae hwn yn gwrs 6 awr wedi’i gymeradwyo gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Dylid ailadrodd y cwrs bob tair blynedd.
Mae’r cwrs yn gymysgedd o waith ymarferol ac ysgrifenedig. Does dim asesiad ffurfiol ar ddiwedd y cwrs. Bydd yr hyn mae ymarferwyr yn ei ddysgu yn cael ei asesu drwy gydol y cwrs.
- Gallu asesu argyfwng a blaenoriaethu pa gamau i'w cymryd.
- Helpu babi neu blentyn sy’n anymwybodol ac sy'n anadlu yn ôl yr arfer.
- Helpu babi neu blentyn sy’n anymwybodol ac nad ydynt yn anadlu yn ôl yr arfer.
- Helpu babi neu blentyn sy’n cael ffit.
- Helpu babi neu blentyn sy’n tagu.
- Helpu babi neu blentyn sy’n gwaedu.
- Helpu babi neu blentyn sy’n dioddef o sioc yn sgil colli llawer o waed (sioc hypofolemig)
Dyddiad: Dydd Mawrth 10 a Dydd Mercher 11 Mehefin 2025 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm - 9pm
Lleoliad: Church House, The Green, Gresford, LL12 8RG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £15
Dyddiad: Dydd Sadwrn 14 Mehefin 2025
Amser: 9.30am - 3.30pm
Lleoliad: Alyn Waters
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £15
Archebu
Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.
Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.