Manylion y cwrs: Mae cyrsiau Diogelu Uwch yn addysgu mwy am yr hyn sy’n rhan o’r rôl ac mae’n eich helpu chi i ddeall y broses ddiogelu yn fwy manwl.
Mae’r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i ddatblygu’r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad a sicrhau bod pob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau yn gysylltiedig â diogelu plant.
Mae’n cynnwys pynciau’n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ymdrin â’r rhain, deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy’n sail i bolisi’r lleoliad ar gyfer diogelwch a lles plant, dyletswyddau yn y broses amddiffyn plant aml-asiantaeth gan gynnwys cynadleddau achos a chyflenwi adroddiadau ysgrifenedig.
Swyddi Gofynnol:
Pobl â chyswllt â phlant ac sydd â chyfrifoldeb diogelu ar gyfer y ddarpariaeth.
Mae enghreifftiau’n cynnwys (nid yw’n rhestr gyflawn):
Ar y safle
- Arweinydd lleoliad
- Rheolwr
- Unigolyn â Gofal
- Gwarchodwr plant
Oddi ar y safle, o bosibl
- Unigolyn Diogelu Dynodedig
- Unigolyn Cyfrifol
- Unigolyn Cofrestredig
Dyddiad: Dydd Mawrth 13, Dydd Mercher 14 a Dydd Iau 15 Mai 2025 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm-9pm
Lleoliad: Church House, The Green, Gresford, LL12 8RG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £20
Dyddiad: Dydd Llun 16, Dydd Mawrth 17 a Dydd Iau 19 Mehefin 2025 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm-9pm
Lleoliad: Church House, The Green, Gresford, LL12 8RG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £20
Dyddiad: Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf a dydd Sadwrn 2 Awst 2025 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Diwrnod 1 9:30am - 2:30pm Diwrnod 2 9:30am - 1pm
Lleoliad: Church House, The Green, Gresford, LL12 8RG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £20
Archebu
Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.
Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.