Manylion y cwrs: Mae’r hyfforddiant amddiffyn plant y mae’n rhaid i ymarferwyr ei gwblhau bellach yn hyfforddiant diogelu plant ac oedolion ar y cyd sy’n cael ei gynnal gan Groundwork Gogledd Cymru / Tîm Gofal Plant Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.
Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer staff y blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd yn y gymhareb 1 aelod o staff i bob 10 plentyn a nodir gan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol sydd newydd eu diweddaru.
Mae’r cyrsiau canolraddol Diogelu Plant yn helpu i wella gwybodaeth bresennol am ddiogelu ac addysgu mwy am yr hyn sy’n rhan o’r broses ddiogelu. Mae’r cwrs yn dangos sut i adnabod camdriniaeth a rhoi gwybod am bryderon yn ogystal â dysgu mwy am y strwythur diogelu, adnabod risgiau a’r hyn sy’n digwydd ar ôl gwneud atgyfeiriad i ofal cymdeithasol.
Swyddi Gofynnol
Gweithwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol â phlant.
Mae enghreifftiau’n cynnwys (nid yw’n rhestr gyflawn):
- Cynorthwy-ydd Gofal Plant
- Cynorthwywyr Meithrin Dan Hyfforddiant
- Cynorthwywyr Meithrin
- Arweinwyr Ystafell Meithrin
- Rheolwyr Cynorthwyol
- Gweithiwr Chwarae
- Gyrrwr Cludiant
- Gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth)
Dyddiad: Dydd Mawrth 10 a Dydd Mercher 11 Mehefin 2025 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm - 8:15pm
Lleoliad: Church House, The Green, Gresford, LL12 8RG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £15
Dyddiad: Dydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Gorffennaf 2025 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm - 8:15pm
Lleoliad: Church House, The Green, Gresford, LL12 8RG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £15
Archebu
Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.
Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.