Manylion y cwrs: Bydd y cwrs meithrin ar-lein hwn yn helpu arweinwyr ystafelloedd babanod i sbarduno ymarfer o ansawdd uchel o fewn darpariaeth dan ddwy oed. Bydd arweinydd yr ystafell feithrin yn dysgu am rinweddau allweddol arweinyddiaeth effeithiol, y dulliau gorau o greu'r amgylchedd cywir, ymgartrefu, ymlyniad, a mwy. Bydd y cwrs yn eich helpu i weithredu strategaethau ymwybyddiaeth ofalgar a'r dull Hygge. Byddwch yn dysgu arwain tîm eich ystafell babanod i ddarparu'r profiad gorau i fabanod a phlant bach.
Pynciau allweddol
- Sut i arwain amgylcheddau dan ddwy oed o ansawdd uchel
- Pwysigrwydd ymgartrefu, ymlyniad
- Dull Hygge – beth yw hyn a'r manteision i fabanod
- Ymwybyddiaeth ofalgar a sut mae hyn o fudd i les plant a staff
- Ynghyd â llawer mwy o strategaethau ar gyfer darparu'r gofal a'r dysgu gorau i blant dan ddwy oed.
Dyddiad: Dydd Llun 16, Dydd Mercher 18, Dydd Llun 23 a Dydd Mercher 25 Mehefin 2025 (mae’n rhaid i chi fod yn bresennol ar bob dyddiad)
Amser: 6:30pm- 8:30pm
Lleoliad: Zoom/Teams
Hyfforddwr: NDNA
Cynulleidfa: Arweinwyr ystafell babanod neu'r rhai sy'n gweithio gyda babanod yn rheolaidd, gan gynnwys Gwarchodwyr Plant
Cost: £10