Manylion y cwrs: Nod y cwrs hwn yw rhoi sgiliau a hyder i gyfranogwyr i ddefnyddio tanau a theclynnau gyda phlant yn eu gweithle. Yn ystod y bore anffurfiol llawn hwyl hwn, byddwch yn cael cyfle i adeiladu gwibgerti a chuddfannau y gallwch eu gwneud yn ôl yn eich lleoliadau. Byddwn yn edrych ar theori darnau rhydd a sut y gellir ei defnyddio gyda phob oed.
Bydd croeso i gyfranogwyr y bore ymuno â staff Gwasanaeth Chwarae Wrecsam a’r Gwasanaeth Ieuenctid, am sesiwn brynhawn a fydd yn cynnwys Asesu Risg Deinameg a’r Gylchred Chwarae. Rhoddir amser i ymchwilio i sut i asesu risg ymddygiad plant mewn modd ddeinameg wrth iddynt chwarae, ac asesu eu hanghenion chwarae, a phryd i ymyrryd. Mae’r gylchred chwarae yn rhan o’r theori gwaith chwarae, a ddefnyddir gan weithwyr chwarae i geisio deall ac esbonio beth sy’n digwydd ar gyfer plant, wrth iddynt chwarae.
Byddwch yn derbyn tystysgrif unwaith y byddwch wedi gwblhau’r cwrs.
Dyddiad: 1 Gorffennaf, 2023
Amser: 10am - 1pm ar gyfer sesiwn fore
Lleoliad: Clwb Ieuenctid Rhiwabon. Canolfan Ragoriaeth Rhiwabon, Llwyn Stanley, Rhiwabon, Wrecsam, LL14 6AH
Cost: £25 y pen
Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.
Sylwer nad yw’r dderbynneb taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.