Beth ydym yn ei wneud?

Yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam, rydyn ni’n helpu i atal plant a phobl ifanc rhag bod yn rhan o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Rydym ni’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed, yn ogystal â’u teuluoedd, dioddefwyr a chymdogaethau, er mwyn atal troseddu ac aildroseddu. Ein nod yw helpu i leihau faint o droseddu sy’n digwydd yn y fwrdeistref sirol, ei effaith a’r ofn mae’n ei achosi.

Pryd fyddwn ni’n gweithio gyda phobl ifanc?

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed:

Nad ydynt wedi cyflawni trosedd 

  • Pan fo pryder y byddant yn ymwneud â throseddu (rydym yn galw hyn yn ‘Raglen Cefnogi Atal’). 

Sydd wedi bod yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Pan fo’r Heddlu wedi’u hatgyfeirio at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i weld a oes angen i ni gynnig cefnogaeth.

Sydd wedi cyflawni trosedd

  • Pan fo’r Heddlu wedi’u hatgyfeirio ar gyfer datrysiad y tu allan i’r Llys (sef y ‘Biwro’ – dysgwch fwy am y broses hon)
  • Pan fyddant wedi bod gerbron Llys ac wedi’u dedfrydu i orchymyn cymunedol statudol
  • Pan fyddant wedi bod gerbron Llys ac wedi’u dedfrydu i gyfnod dan glo

Mwy o wybodaeth am dîm y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Pwy sy’n rhan o’r tîm?

Mae’r tîm yn cynnwys llawer o staff o wahanol sefydliadau sy’n cydweithio, gan gynnwys:

  • Swyddogion Cyfiawnder Ieuenctid
  • Uwch Weithwyr Cefnogi
  • Gweithwyr Ieuenctid
  • Gweithwyr Cymdeithasol 
  • Swyddogion Prawf
  • Ymarferwyr camddefnyddio sylweddau
  • Arbenigwyr addysg
  • Gweithiwr cyswllt dioddefwyr
  • Ymarferydd CAMHS
  • Swyddog Heddlu

Gwaith arall rydym ni’n ei wneud

  • Gwasanaethau oedolyn priodol ar gyfer pobl ifanc yn ystod cyfweliadau â’r Heddlu
  • Gweithdai ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ysgolion uwchradd lleol
  • Prosiectau cymunedol
  • Paratoi adroddiadau cyn dedfrydu ar gyfer y Llys
  • Gwasanaethau cefnogi i ddioddefwyr troseddau gan gynnwys ymyriadau cyfiawnder adferol

Ariannu

Rydyn ni’n cael ein hariannu gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, Llywodraeth Cymru a phartneriaethau strategol lleol.

Gwirfoddoli

Mae gennym ni fwy a mwy o wirfoddolwyr sy’n cefnogi tîm y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. 

Maen nhw’n cael cyfle i weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc a chefnogi penderfyniadau yn ein cyfarfodydd panel. 

Rydyn ni’n annog rhai o bob oed a chefndir i gymryd rhan. Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at volunteerps@wrexham.gov.uk.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, ffoniwch 01978 298739.