Gwneud cais ar-lein
Mae Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru ar gael i helpu gyda chostau gwisg ysgol a phethau eraill i blant ysgol o deuluoedd ag incwm isel.
Ar hyn o bryd, rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer blwyddyn ysgol 2022-2023 (yn seiliedig ar pa grŵp blwyddyn fydd eich plentyn yn mynd iddo ym mis Medi 2022) tan Mehefin 30, 2023.
Cyflwynwch un cais yn unig, os oes angen, gallwch ychwanegu nifer o blant i’r un cais (mae'n bosibl y bydd cyflwyniadau niferus yn oedi prosesu eich grant).
Swm grant
Cymhwyster
Mae unrhyw blentyn sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n mynychu’r ysgol yn Wrecsam, ac sydd yn y grwpiau blwyddyn canlynol yn gymwys i gael y grant:
- Yn cychwyn yn y dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd
- Yn cychwyn blynyddoedd ysgol 1 i 11
- Mewn ysgol arbennig, adnodd anghenion arbennig neu uned gyfeirio disgyblion ac yn 4 i 15 oed
Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal yn gymwys hefyd, waeth beth yw eu statws o ran prydau ysgol am ddim.
Os oes mwy na 12 mis wedi pasio ers i chi gael eich asesu am brydau ysgol am ddim (neu os yw eich amgylchiadau wedi newid), bydd angen i chi ailymgeisio am brydau ysgol am ddim yn gyntaf.
Pan fyddwch chi wedi cael cadarnhad eich bod yn gymwys, gallwch wneud cais am y grant hwn.
Ar gyfer beth gellir defnyddio’r grant?
Gallwch ddefnyddio’r grant i dalu costau:
- gwisg ysgol
- dillad chwaraeon ysgol
- gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach, er enghraifft chwaraeon, sgowtiaid a geidiau
- offer, fel bag ysgol a deunydd ysgrifennu
- offer ysgol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, fel dylunio a thechnoleg
- offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dillad sy’n dal dŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored
- gliniadur neu ddyfais tabled
Sut fydda i’n cael yr arian?
Telir y grant drwy drosglwyddiad BACS yn syth i’ch cyfrif banc.
Mwy o gwestiynau
Anfonwch e-bost i uniformgrant@wrexham.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau am y grant.