Gwneud cais am ofal plant (drwy Llywodraeth Cymru)

Ymgeisiwch rŵan

 

Gallwch ddarllen am y cynnig isod, ond bydd arnoch angen gwneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru (dolen gyswllt allanol).

Os oes arnoch angen cyngor neu gymorth i gwblhau eich cais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynnig Gofal Plant, gallwch e-bostio childcareoffer@wrexham.gov.uk, neu ymweld â’r Hwb Lles, Adeiladau’r Goron, Stryt Caer, Wrecsam (rhwng 9:30am - 12:30pm).

Cysylltwch â Llinell Gymorth y Cynnig Gofal Plant i Gymru os ydych yn cael problemau gyda’r cais ar-lein, i weld a yw eich cais wedi ei dderbyn neu pa mor hir fydd yn ei gymryd i’w brosesu. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 03000 628 628.

Beth yw'r cynnig?

Os ydych yn rhiant sy’n gweithio neu astudio, yn byw yn Wrecsam ac os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwyster, gallwch wneud cais am Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru i blant tair a phedair oed. 

Mae’r cynnig ar gael i blant o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed nes mis Medi ar ôl iddynt droi’n bedair oed.

Mae’n golygu y gallwch gael hyd at 30 awr o ofal plant bob wythnos wedi’i gyfuno ag addysg gynnar neu feithrinfa cyfnod sylfaen, oll wedi’i ariannu gan y Llywodraeth.

I gael mynediad at y cynnig, bydd arnoch angen gwneud cais am addysg gynnar neu feithrinfa cyfnod sylfaen ar wahân, yn ogystal ag ymgeisio am yr elfen gofal plant drwy Blatfform Digidol Cynnig Gofal Plant Cymru. 

Sut darperir y cynnig?

Mae’r Cynnig yn cynnwys gofal plant wedi’i gyfuno ag addysg ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed (Addysg Gynnar wedi’i Hariannu a Meithrinfeydd Cyfnod Sylfaen). At ei gilydd mae’r lwfansau’n talu am hyd at 30 awr yr wythnos. 

Lwfansau
Cynllun Dysg y gellir ei hawlio    

Lwfans Gofal Plant

Addysg Gynnar wedi'i Hariannu 10 awr yr wythnos 20 awr yr wythnos
Meithrinfa Cyfnod Sylfaen 12.5 awr yr wythnos 17.5 awr yr wythnos

Mae Addysg Gynnar wedi’i Hariannu ar gael yn nhymhorau’r gwanwyn a’r haf i blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Medi a dechrau tymor yr haf.

Mae darpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen ar gael gydol y tri thymor ar gyfer plant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed ar 31 Awst neu cyn hynny. 

Er bod y cynnig gofal plant ar gael am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn, caiff 39 o’r rheiny eu trin fel adeg tymor. Ymdrinnir â’r naw wythnos arall fel rhai y tu allan i’r tymor, neu ‘wythnosau gwyliau’. Mae nifer yr wythnosau gwyliau y gall pob plentyn ei gael yn dibynnu ar ba bryd yn ystod y flwyddyn academaidd y dechreuodd y plentyn elwa ar y Cynnig. Yn ystod yr wythnosau gwyliau hyn ni fydd plant ond yn derbyn 30 awr o ofal plant bob wythnos.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Cynnig Gofal Plant, mae croeso ichi gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar childcareoffer@wrexham.gov.uk