Mae Taliadau Uniongyrchol yn ffordd arall o gael cymorth i fodloni eich anghenion cymdeithasol a phersonol. Yn hytrach na bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu’r gefnogaeth hon, cewch arian i sefydlu gwasanaethau eich hunain. Gall hyn roi fwy o reolaeth o ran pwy fydd yn eich helpu a’r ffordd y byddant yn ei wneud. Gall hyn weddu eich ffordd o fyw yn well a rhoi gwell dewis a hyblygrwydd i chi.
Pwy all gael Taliadau Uniongyrchol?
Gall y rhan fwyaf o bobl y mae asesiad gan y gwasanaethau cymdeithasol wedi dangos eu bod yn gymwys i gael gofal a chefnogaeth gael Taliad Uniongyrchol. Mae angen i ni fod yn fodlon eich bod am gael Taliad Uniongyrchol ac y gallwch ei reoli, gyda chefnogaeth gan ffrindiau, deulu neu ein gwasanaeth cymorth, neu heb y gefnogaeth hon.
Sut gall Taliadau Uniongyrchol fy helpu i a sut gellir eu defnyddio?
Gallai sefydlu Taliadau Uniongyrchol eich helpu i:
- recriwtio eich cynorthwyydd personol eich hun yn hytrach na phwy bynnag sy’n cael ei anfon i chi
- trefnu bod eich gofal yn cael ei ddarparu ar wahanol amseroedd sy’n addas i beth rydych eisiau gwneud
- mynychu gwahanol weithgareddau cymunedol gan ddefnyddio eich Taliad Uniongyrchol
Os byddwch chi’n dewis cyflogi eich staff eich hun, gallwch wneud hyn naill ai trwy brynu eich gwasanaethau gan asiantaeth ofal neu trwy gyflogi eich gofalwyr yn uniongyrchol.
Gallwch fodloni rhan o’ch anghenion asesedig, neu yr anghenion i gyd gan ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol. Rhaid i’r taliadau gael eu rheoli’n ddiogel a chyfrifol. Mae’n rhaid iddynt gyflawni’r canlyniadau a nodir yn eich cynllun gofal a chymorth, sydd wedi’u cytuno gyda’ch gweithiwr cymdeithasol.
Gall gofalwyr drefnu bod yr unigolyn maen nhw’n gofalu amdano yn aros adref gyda chefnogaeth Taliad Uniongyrchol hefyd, er mwyn iddynt gael seibiant.
Faint fydd yn ei gostio i mi?
Caiff eich amgylchiadau ariannol eu hasesu i weld a fydd rhaid i chi dalu tuag at eich anghenion gofal. Mae hyn yr un fath ag ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol eraill.
Gwybodaeth ychwanegol
Cysylltwch â ni am Daliadau Uniongyrchol
Os oes gennych ddiddordeb a’ch bod yn cael gwasanaethau cymorth eisoes, gallwch gysylltu â’ch gweithiwr cymdeithasol.
Os nad ydych chi’n cael gwasanaeth, gallwch gysylltu â ni i wneud cais am asesiad o’ch anghenion.
Os hoffech ragor o wybodaeth am sut gallai Taliadau Uniongyrchol weithio i chi, gallwch gysylltu â ni trwy anfon e-bost at directpayments@wrexham.gov.uk.