Rydym yn rhentu garejis yn Sir Wrecsam. Os ydych chi’n denant i’r cyngor fe gewch flaenoriaeth wrth ymgeisio, er gall tenantiaid tai preifat wneud cais hefyd.
Cysylltwch â’ch swyddfa dai leol os oes gennych chi ddiddordeb rhentu garej yn eich ardal chi.
Sut i dalu rhent eich garej
Os ydych yn denant cyngor, mae’r rhent garej yn cael ei dalu’n wythnosol gyda’ch rhent eiddo.
Os nad ydych yn denant cyngor, byddwch yn derbyn anfoneb yn chwarterol, fydd yn egluro’r ffyrdd y gallwch dalu. I dalu ar-lein, dewiswch ‘Anfonebau Dyledwyr’ o’r dewis ‘Pob siop’ ar ein e-storfa (gan roi eich rhif anfoneb fel y cyfeirnod):
Sut ydw i’n dod â thenantiaeth garej i ben?
Mae’n rhaid i chi roi o leiaf wythnos o rybudd i ni yn ysgrifenedig. Byddwn wedyn yn ysgrifennu atoch chi i gadarnhau’r dyddiad dod i ben a phryd y dylech chi roi’r allweddi yn ôl i ni.