Mae ein (Cyngor Wrecsam) Strategaeth Digonolrwydd Lleoliadau 2020 - 24 yn nodi ein dull strategol i sicrhau fod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu darparu â llety digonol o safon uchel er mwyn bodloni eu hanghenion. 

Rydym yn gwerthfawrogi profiadau plant a phobl ifanc o dderbyn gofal yn fawr ac rydym yn ymrwymo i’w cynnwys mewn penderfyniadau sy’n cael effaith ar eu bywydau.  Rydym yn gwneud hyn drwy ofyn beth mae arnynt ei eisiau, gwrando ar beth maent yn ei ddweud wrthym a chymryd camau gweithredu. 

Mae’r strategaeth hon yn ystyried anghenion plant sy’n derbyn gofal yn Wrecsam a’u teuluoedd. Mae hyn yn seiliedig ar yr hyn maent wedi dweud wrthym ni am eu profiadau o fod mewn gofal; drwy Arolwg Cyngor Gofal Pobl Ifanc blynyddol. 

Trwy gynnal yr arolwg gall Gyngor Gofal Pobl Ifanc:

  • gynrychioli plant a phobl ifanc yn well 
  • parhau i roi gwybod i ni beth sydd angen newid, wrth ddarparu syniadau a chyngor am y ffordd orau o wneud hyn

Mae ein haddewidion i blant sy’n derbyn gofal a gadawyr gofal hefyd yn llywio egwyddorion craidd y strategaeth hon. 

Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd i’w cadw gyda’i gilydd, a lleihau’r nifer o blant sy’n derbyn gofal. Fodd bynnag, ar gyfer plant a phobl ifanc lle nad yw parhau i fyw adref yn opsiwn, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau fod ganddynt le cyson i fyw, lle maent yn teimlo’n ddiogel. Mae’r partneriaid rydym yn gweithio â nhw yn cynnwys y rhai o fewn y sector annibynnol.

Mae ein strategaeth yn darparu fframwaith ar gyfer sut byddwn yn cyflawni hyn. 
I gael copi llawn o’n Strategaeth Digonolrwydd Lleoliadau 2020-24, anfonwch e-bost at scpractice@wrexham.gov.uk.