Hylendid Bwyd Lefel 2 yw’r cwrs hylendid mwyaf sylfaenol a phoblogaidd ymysg busnesau bwyd. Mae’n ofyniad cyfreithiol eich bod yn gallu profi eich bod chi a’ch staff wedi eich hyfforddi’n ddigonol i wneud y swydd. Ar gyfer unrhyw staff sy’n delio â bwyd agored, y ffordd fwyaf diogel i wneud hyn yw cwblhau cwrs hyfforddi Hylendid Bwyd Lefel 2.
Mae’r cwrs Lefel 2 yn gwrs trwyddedig llawn a gaiff ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol diogelwch bwyd.
Cwrs hylendid bwyd sylfaenol – Hylendid Bwyd Lefel 2
Cynhelir y cyrsiau hyn dros 2 wythnos am 3.5 awr yr wythnos.
Cynhelir yr holl gyrsiau yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, Heol y Ffiwsilwr, Wrecsam, LL13 7YF.
Mae'r cwrs yn costio £65 y person.
Sut i archebu lle
I archebu lle ar y cwrs, ffoniwch ein Tîm Diogelwch Bwyd ar 01978 298997.
Rhaid talu am y cyrsiau hylendid bwyd sylfaenol cyn dechrau’r cwrs.
Cyrsiau hyfforddi pwrpasol
Gallwn hefyd drefnu cyrsiau hyfforddi pwrpasol mewnol ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy o ymgeiswyr. Cysylltwch â’n tîm Diogelwch Bwyd am ragor o wybodaeth ar gost y cyrsiau pwrpasol.