Rhan o Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam 2024 

Prif gyflwyniad

Christian Majgaard; Cyn Bennaeth Brand Byd-eang a Datblygu Busnes yn LEGO

Mae siaradwr busnes rhyngwladol ysbrydoledig sy’n uchel iawn ei barch, Christian Majgaard yn herio meddwl confensiynol o fewn strategaeth, brandio, marchnata ac arloesi busnes, drwy ddefnyddio enghreifftiau cymhellol o’i yrfa ei hun.

Treuliodd Christian 25 mlynedd yn rheoli LEGO, mewn swyddi iau i ddechrau fel Pennaeth Ymchwil Marchnata Rhyngwladol, gan dyfu i swyddi uwch fel Pennaeth Marchnata’r UE a Phennaeth Ardaloedd Busnes Newydd.   Daeth â’i yrfa i ben gyda LEGO yn arwain Brand Byd-eang a Datblygu Busnes, lle’r oedd yn gyfrifol am frandio, marchnata ac arloesedd busnes ar gyfer y busnes teganau craidd a meysydd busnes newydd. Ar ei ffordd i fyny, cymerodd rai blynyddoedd allan o LEGO hefyd, yn gwasanaethu fel Uwch Ymgynghorydd Rheoli gyda PA Consulting. 

Yn ystod ei amser yn LEGO, roedd ef a’i dimau wedi arloesi gyda dyfeisiau newydd llwyddiannus fel y parciau LEGOLAND® cyntaf yn y DU, UDA a’r Almaen, dull byd-eang cyntaf y cwmni i ddysgu technoleg mewn ysgolion, y gynghrair arloesol barhaus gyda LEGO a MIT yn Boston, a’r gyfres robot LEGO “Mindstorms®” cyntaf.  Roeddent hefyd wedi arloesi cynghreiriau trwyddedu brand o fewn y gemau cyfrifiadurol a diwydiannau ffilmiau yn arwain at a.o. ym meddalwedd poblogaidd y byd i blant, cydweithrediadau parhaus gyda masnachfreintiau Star Wars, Harry Potter a Spiderman.  Mae Christian yn pwysleisio pa mor bwysig oedd cael cefnogaeth teulu’r perchennog a gweledigaeth arweiniol a’r rhyddid i logi’r arweinwyr uned busnes cywir.     
Mae Christian nawr yn defnyddio ei brofiad drwy siarad, gwasanaethu ar fyrddau anweithredol, ysbrydoli arweinwyr ifanc a hŷn a drwy gyd-gyllido busnesau newydd.  
Mae wedi ysbrydoli corfforaethau fel Nestlé, Motorola, Swiss Re, Disneyland, Deloitte, Heineken, Abbvie, Merck, Johnson & Johnson, VELUX, DSV a sefydliadau’r llywodraeth, tra hefyd yn ddarlithydd gwadd mewn ysgolion busnes ar hyd a lled y byd ac mewn rhaglenni datblygu arweinyddiaeth corfforaethol.

Yn gyd-gyllidwr sawl busnes newydd llwyddiannus (a.o. mewn roboteg ar ei ynys frodorol yn Nenmarc, bellach yn cyfrif dros 100 o gwmnïau robotig), mae Christian yn ymddangos ac yn derbyn canmoliaeth yn y llyfr gan yr athrawon Iseldireg/Prydeinig Trompenaars & Hampden-Turner fel un o’r “21 Arweinydd ar gyfer yr 21ain Ganrif”. 

Mae Christian hefyd yn awdur y llyfr bach “13 hints for tomorrow’s brand builders” yn ogystal ag amrywiol erthyglau, ac mae wedi ymddangos mewn darllediadau teledu a radio yn datrys problemau, yn arbenigwr ar faterion busnes a brandio strategol.

4 busnes arweiniol yn y Fwrdeistref Sirol

Darparwyd y sgyrsiau hyn gan arweinwyr busnes yn cynrychioli’r cwmnïau canlynol yn Wrecsam.

Rhyngddyn nhw maen nhw’n cael eu cydnabod; yn genedlaethol/yn rhyngwladol am fod yn arweinwyr yn eu marchnad; am eu dull arloesol o groesawu a buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio; am eu ffocws ar les a datblygiad gweithwyr; ac am eu llwyddiant wrth weithredu’n gynaliadwy a lleihau eu heffaith amgylcheddol.

Platts Agriculture Limited

Yn arweinwyr marchnad gwelltach anifeiliaid y DU ac yn enillwyr sawl gwobr, mae Platts Agriculture Ltd yn fusnes teuluol sydd wedi bod yn masnachu.

Bu Caroline Platt, Rheolwr Gyfarwyddwr Platts Agriculture yn rhoi sgwrs ar y testun ‘Platts - A Legacy of Dynamic Leadership and Innovation’, yn sôn am sut y mae Platts, busnes teuluol trydydd cenhedlaeth a sefydlwyd hanner can mlynedd yn ôl,  yn arddangos y math o arweinyddiaeth ddynamig sy’n meithrin twf ac arloesedd parhaus er budd cenedlaethau’r dyfodol.

The Very Group

Gan helpu pobl sy’n byw ar gyllideb i gael mwy o’u bywydau mae The Very Group yn deulu o frandiau manwerthu digidol sy’n gwerthu dillad, nwyddau trydanol, nwyddau i’r cartref a llawer mwy, a nhw yw’r bobl y tu ôl i Very, un o fanwerthwyr digidol mwyaf y DU ac Iwerddon 

Bu Lisa Bellis (Partner Pobl) a Darren Gallop (Arbenigwr Dysgu a Datblygu) o safle cyflenwi a logisteg Very Groups Wrecsam yn rhoi sgwrs ar sut i sefydlu diwylliant dysgu a datblygu rhagorol. 

Yr oedd eu cyflwyniad, a oedd ar ffurf astudiaeth achos o arferion gorau, yn cynnig mewnwelediad diddorol a llawn gwybodaeth i sut y mae datblygiad parhaus gwybodaeth a gallu yn ganolog i ethos y cwmni ac wedi llwyddo i greu amgylchedd lle caiff dysgu parhaus a thwf proffesiynol eu hannog, gydag enghreifftiau o rai o’r pethau cadarnhaol sy’n deillio o hyn.

McCarthy Distribution Limited

Bu Grŵp McCarthy’n weithgar ym maes logisteg ers 1950, a bellach yn cynhyrchu trosiant blynyddol o £8.5 miliwn yn cludo, storio a dosbarthu nwyddau ar baledi ac yn cyflogi tua 70 o staff ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam.  

Bu Mike McCarthy, Rheolwr Gyfarwyddwr McCarthy Distribution Limited, yn siarad yn ysbrydoledig, ffraeth, gonest ac ymarferol am ei brofiadau personol ei hun ym myd busnes. Nid ar chwarae bach y mae creu busnes llwyddiannus sy’n cynhyrchu miliynau o bunnau, a bu gofyn wynebu nifer o heriau a’u goresgyn. 

Yn ogystal â rhoi cipolwg diddorol ar ddatblygiad y busnes, nod y cyflwyniad oedd magu ymdeimlad o hyder, cymhelliant ac anogaeth yn y cynadleddwyr. Yr oedd yn amlygu, drwy hanesion o’r byd go iawn, bod modd datrys problemau anodd drwy ddyfalbarhad, ymroddiad a chadernid, gan ddysgu gwersi a rheoli busnes sy’n tyfu ac yn ffynnu. 

Marlin Industries Limited

Sefydliad gweithgynhyrchu a logisteg integredig sy’n darparu datrysiadau cadwyn gyflenwi blaengar yn y diwydiant ceblau; mae Marlin Industries yn arweinwyr y farchnad yn y chwyldro gweithgynhyrchu carbon isel, yn y sector.  Gyda phwyslais ar roi dim byd mewn safleoedd tirlenwi, er mwyn helpu’r amgylchedd, uchelgais y cwmni yw dod yn sefydliad di-garbon net erbyn 2030.

Bu John Droog; Prif Weithredwr, Mel Whitley; Rheolwr AD a Chydymffurfiaeth y Grŵp a Karen Roberts; Rheolwr Prynu Marlin Industries Limited yn rhoi cyflwyniad ar 3 pwnc allweddol; lles gweithwyr ac ymgysylltu, taith y cwmni i fod yn ddi-garbon net a gwella hylifedd y fantolen.  
Rhoddodd yr astudiaeth achos ddifyr ysbrydoliaeth drwy amlygu pam mae Marlin Industries yn angerddol am weithredu mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, y buddsoddiadau a wneir a’r strategaethau sy’n cael eu rhoi ar waith, yr heriau a wynebwyd ac effeithiau cadarnhaol ymdrechion gwyrdd y cwmni a’r pwyslais ar les y gweithwyr.  

Yn ogystal â darparu enghreifftiau o’r byd go iawn (a oedd yn dangos gwaith cwmni o Wrecsam i leihau a chydbwyso ei ôl troed carbon, er enghraifft), cafodd y rhai a oedd yn bresennol anogaeth, angerdd ac ysgogiad o’r cyflwyniad er mwyn archwilio ffyrdd ychwanegol y gallai eu busnesau hwy hefyd leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, gwella hylifedd a chreu gweithlu ymroddedig, sy’n cael ei werthfawrogi.

Cynghrair Arweinyddiaeth Wrecsam – lansiad cyhoeddus swyddogol

Wedi cynnal ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddar, darparodd y gynhadledd lwyfan ar gyfer cyflwyno Cynghrair Arweinyddiaeth Wrecsam yn swyddogol i’r cyhoedd.  

Bu Craig Weeks; Cyfarwyddwr Gweithrediadau / Arweinydd gyda JCB Transmissions (darllenwch fwy isod) yn Wrecsam yn lansio Cynghrair Arweinyddiaeth Wrecsam yn swyddogol i’r cyhoedd gan rannu manylion ynghylch sylfaenwyr y Gynghrair, ei hamcanion a’i phwerau. 

Mae Cynghrair Arweinyddiaeth Wrecsam yn fudiad cydweithredol sy’n cynnwys busnesau mawr yn y sector preifat a chyrff cymunedol a chyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, a’i hamcanion yw:

  • Cynnal a hyrwyddo twf a llwyddiant busnesau yn Wrecsam a helpu pobl leol a’r economi leol i ffynnu. 
  • Rhoi cyfle i’r aelodau rannu gwybodaeth ac ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio o safbwynt gwella sgiliau’r gweithlu, cynlluniau ynni, ymchwil a datblygu, dyfeisgarwch ac isadeiledd.
  • Rhoi grym i gymunedau drwy addysg, hyfforddiant a gwaith wrth weithio â phartneriaid allweddol a sefydliadau addysgol i feithrin a denu pobl ddawnus a dyfeisgar.  
  • Gweithio â’r sectorau cyhoeddus a phreifat i ysgogi newid er gwell a dyfeisgarwch, ac arfer statws y gynghrair wrth ddylanwadu ar fuddsoddwyr, llywodraeth leol a chenedlaethol a sefydliadau mawr eraill.  
  • Hyrwyddo strategaethau di-garbon net, cynlluniau ar y cyd, addysg ac arferion gorau i gyflawni amcanion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol.

Wrth fynd ati i gyflawni’r amcanion uchod, mae gan y Gynghrair rym i:

  • Godi arian o ffynonellau cyhoeddus a phreifat.
  • Cydweithio â chyrff statudol, gwirfoddol, cymunedol a phreifat fel y bo’n briodol.

JCB Transmissions Limited

JCB stori llwyddiant Prydeinig anhygoel o arloesi, uchelgais a gwaith caled gwirioneddol.  O ddechreuad bach yn adeiladu trelars amaethyddol yn 1945, heddiw mae JCB yn un o’r tri o weithgynhyrchwyr offer adeiladu mwyaf yn y byd - gyda 22 safle gwaith ar bedwar cyfandir a dros 750 deliwr o amgylch y byd.

Yn Wrecsam, mae JCB yn cyflogi mwy na 500 o bobl ac yn cynhyrchu gerbocsys, acselau a chydrannau peiriant; gan chwarae rhan enfawr mewn cerflunio’r byd modern.   
Mewn 75 mlynedd mae JCB wedi mynd o un dyn mewn garej yn Uttoxeter i brif frand byd-eang sy’n adnabyddus am ei ysbryd arloesol. Mae’r cwmni yn priodoli’r twf hwn i’w bobl - gweithlu 11,000 cadarn byd-eang sy’n rhan o’r teulu JCB.   

Mae cyflawniadau dros y 75 mlynedd diwethaf wedi bod yn sylweddol, ond mae JCB yn credu mewn edrych ymlaen bob amser i’r datblygiad nesaf, y lefel nesaf o lwyddiant.   Mae’r cwmni yn parhau i arloesi a gwthio’r ffiniau mewn ymchwil a datblygiad; yn arbennig o fewn maes cynaliadwyedd, ble mae costau ynni ac allyriadau yn ystyriaeth prynu cynyddol bwysig. 

Yn 2007 cafodd cangen gwerthiant JCB Transmissions Limited ei anrhydeddu gyda’i Wobr am Fenter gyntaf gan y Frenhines ar ôl i werthiannau tramor rhwng 2003 a 2005 fwy na dyblu mewn tair blynedd, gydag allforion yn codi 134%.  

Dros y blynyddoedd, mae prentisiaethau Trosglwyddiad JCB yn aml wedi ennill prif anrhydeddau mewn nifer o seremonïau gwobrau mawreddog, gan bwysleisio ymrwymiadau’r cwmni i ddatblygu talent, ac yn y cyswllt hwn ym mis Tachwedd 2023, cyflwynwyd Gwobr Partner a Werthfawrogir i JCB gan Gyrfa Cymru; gan ennill yn y categori Newydd-ddyfodiad Gorau. Roedd hyn yn cydnabod ymgysylltiad a phartneriaeth diweddar Craig a’r  cwmni gyda Gyrfa Cymru sydd wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc i ddilyn gyrfa mewn adeiladu, drwy gymryd rhan mewn:

  • Sgyrsiau prentisiaeth
  • Cyfweliadau ffug
  • Digwyddiadau Dewis eich Dyfodol
  • Rhwydweithio gyda chyflogwyr 
  • Sgyrsiau Alumni