Mae yno lawr o bethau i’w hystyried wrth ddewis y lleoliad gofal plant iawn ar gyfer eich plentyn. Mae’n syniad da ichi ymweld â chymaint o leoliadau a phosib cyn penderfynu.

Os nad ydych chi’n siŵr ynglŷn â beth ddylech chi edrych arno neu holi yn ei gylch wrth ymweld â lleoliad, dyma rai pethau y gallwch ddisgwyl eu gweld mewn lleoliad da...

Ydi o’n lle croesawgar?

  • Dylai’r staff fod yn gyfeillgar a gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo fod croeso ichi yno

Ydi o’n lle difyr i blant?

Chwiliwch am...

  • Arwyddion amlwg fod y plant yn cael eu difyrru ac yn mwynhau (er enghraifft, lluniau ar y waliau ac wynebau hapus)
  • Gweithgareddau heriol a diddorol yn cael eu cynnig, gydag amrywiaeth o bethau sy’n difyrru’r plant
  • Bod y plant yn cael eu hannog i gymryd rhan ymhob gweithgaredd a defnyddio’r holl offer
  • Bod llyfrau stori’n cael eu darparu i’r plant

Pa gyfleusterau sydd ar gael?

Chwiliwch am...

  • Llawer o deganau ac offer chwarae addas 
  • Mynediad at le chwarae tu allan
  • Sut mae’r lleoliad yn defnyddio’r teledu neu gemau cyfrifiadurol 
  • Pa fath o brydau/byrbrydau a ddarperir a pha mor faethlon yw’r bwyd

Efallai hefyd y bydd arnoch angen gwneud yn siŵr bod y lleoliad yn medru...

  • Bodloni unrhyw anghenion diet arbennig 
  • Darparu dysgu yn Gymraeg
  • Darparu cymorth ar gyfer anghenion ychwanegol

Ydy o’n amgylchedd gofalgar?

Gwnewch yn siŵr...

  • Bod y lleoliad yn hyblyg o ran rhoi amser i’ch plentyn setlo
  • Y cewch chi gyfle i weld sut mae’ch plentyn yn dod yn ei flaen
  • Bod modd rhoi amser tawel i’ch plentyn ar ben ei hun os oes angen 
  • Y darperir egwyliau hyblyg
  • Bod yno weithdrefnau ar gyfer triniaeth feddygol mewn argyfwng

Efallai y byddwch hefyd eisiau gwirio pa hyfforddiant toiledu a ddarperir a beth sy'n digwydd os bydd eich plentyn yn cael damwain.

Staff

Gwnewch yn siŵr...

  • Eich bod yn holi ynglŷn â chymwysterau a phrofiad y staff
  • Bod y staff yn cael cynnig hyfforddiant parhaus
  • Bod y staff yn cymryd rhan yn y gweithgareddau gyda’r plant
  • Eich bod yn holi faint o ofalwyr sydd yno o gymharu â nifer y plant
  • Bod y staff yn dangos amynedd a phwyll wrth siarad â’r plant
  • Bod y staff yn annog ymddygiad da

Wrth ystyried gwarchodwyr plant, gofynnwch am gael gweld portffolio a geirda.

Cost

Holwch...

  • A oes blaendal i’w dalu, ac a gaiff hwnnw ei dalu’n ôl
  • Beth yw’r gost, a beth mae hynny’n ei gynnwys (er enghraifft, tripiau, bwyd, gofal yn ystod y gwyliau)

Pethau eraill i holi amdanynt

  • Y trefniadau ar gyfer cadw lle

  • Oriau agor, gan ystyried a fyddant yn bodloni’ch anghenion o ran gofal plant

  • Pa drefn sydd i’r dydd

  • Mynediad a pharcio

  • A gynigir tripiau a gwibdeithiau

  • A fedr eich plentyn ddod â phethau o adref i’w helpu wrth setlo