Symud yn ystod y flwyddyn yw pan fyddwch chi'n gofyn i ni symud eich plentyn o un ysgol i'r llall, y tu allan i'r rowndiau derbyn arferol.

Mae symud ysgol yn gam difrifol iawn y dylech ei ystyried yn ofalus, oni bai bod y cais yn ganlyniad i symud tŷ. 

Mae llawer o anawsterau y gellir eu datrys heb newid ysgol eich plentyn, ac yn anffodus, efallai na fydd problemau y gallai eich plentyn fod yn eu profi ar hyn o bryd yn diflannu o ganlyniad i newid ysgol.

Fe'ch cynghorir yn gryf i weithio gydag ysgol bresennol eich plentyn i ddatrys unrhyw broblemau.  Gall symud ysgol darfu’n fawr ar addysg eich plentyn a dylai bob amser fod yn ddewis olaf.

Does dim sicrwydd y gallwn gynnig lle yn eich ysgol ddewisol.  Rhaid i’ch plentyn barhau i fynychu ei ysgol bresennol nes bod yr ysgol newydd wedi cadarnhau ei le ac wedi cytuno ar ddyddiad cychwyn.  Peidiwch â thynnu'ch plentyn o'i ysgol bresennol cyn hyn. 

Ffactorau y mae'n rhaid i chi eu hystyried cyn cymryd cam mor bwysig: 

Cwricwlwm 

Mae’n bwysig ystyried bod pob ysgol yn addysgu'r Cwricwlwm i Gymru mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol adegau o'r flwyddyn academaidd.   Gallai newid ysgolion hanner ffordd drwy flwyddyn olygu bod eich plentyn yn ailadrodd neu'n colli gwaith, a gallai hyn gael effaith sylweddol ar gynnydd.

Mae cyrhaeddiad disgyblion sy'n symud yn ystod y flwyddyn yn sylweddol is na'u cyfoedion ac yn is fyth ymhlith disgyblion sy'n newid ysgol sawl gwaith.

Mewn addysg uwchradd, mae pynciau dewisol TGAU, cyrsiau coleg a dyluniad y cwricwlwm yn amrywio’n fawr o ysgol i ysgol, ac felly, gall newid ysgol gael effaith negyddol iawn ar gynnydd eich plentyn.

Mae symud ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn achosi llawer iawn o darfu, a gall gael effaith niweidiol ddifrifol ar addysg eich plentyn. Mae blynyddoedd 10 ac 11 yn gwrs dwy flynedd o hyd, ac mae'n debygol na fydd yr ysgol rydych chi'n dymuno symud eich plentyn iddi yn gallu cynnig yr un dewis o bynciau ag ysgol bresennol eich plentyn, neu gallai fod ar wahanol gamau o ddysgu'r cwricwlwm.  Os mai dyma’r achos, efallai na fydd modd defnyddio'r gwaith y mae eich plentyn eisoes wedi'i wneud tuag at ei TGAU.  

Cymorth anghenion dysgu

Os ydych chi’n ystyried newid ysgol gan eich bod yn teimlo nad yw ysgol bresennol eich plentyn yn gallu diwallu ei anghenion dysgu, trafodwch hyn gyda chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol eich ysgol cyn cyflwyno cais i symud ysgol. Ysgol bresennol eich plentyn sydd yn y sefyllfa orau i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi, a helpu i'w datrys. Gall y tîm derbyn i ysgolion neilltuo lleoedd mewn ysgolion prif ffrwd yn unig, ac ni allant ddyrannu lleoedd mewn dosbarthiadau darpariaeth adnoddau.

Pwysau ariannol 

Mae pwysau ariannol ynghlwm wrth symud ysgol oherwydd ffactorau fel gwisg ysgol newydd a chostau trafnidiaeth.

Dylech ystyried yn ofalus sut y bydd eich plentyn yn teithio i'r ysgol rydych chi’n gwneud cais amdani.  Mae trafnidiaeth ysgol a ariennir yn cael ei darparu i ysgol addas agosaf eich plentyn pan fydd hyn y tu hwnt i bellter cerdded addas. Os byddwch chi'n dewis symud eich plentyn i ysgol ar wahân i’r ysgol addas agosaf, chi fydd y llwyr gyfrifol am drefnu trafnidiaeth.  Bydd hyn yn cynnwys gwneud y trefniadau trafnidiaeth angenrheidiol a thalu'r gost.  Am fwy o wybodaeth darllenwch ein polisi trafnidiaeth ysgol.

Os gall eich ysgol ddewisol gynnig lle, bydd disgwyl i'ch plentyn gael y wisg lawn fel yr amlinellir yn y prosbectws cyn y gall dderbyn lle yn yr ysgol newydd. Ni fydd yr awdurdod lleol yn gallu rhoi cymorth ariannol i chi tuag at gost hyn. Ar gyfer teuluoedd cymwys, gellir hawlio'r Grant Hanfodion Ysgol unwaith am bob blwyddyn academaidd.  Os gwnaethoch gyflwyno hawliad yn yr haf ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, ni fyddwch yn gallu ei hawlio eto.  

Sut i wneud cais

Dim ond pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn all wneud cais ysgol. Lle ceir cyfrifoldeb rhiant a rennir, rhaid i bob person sy'n dal y cyfrifoldeb hwn gytuno â'r cais i symud. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i wneud yn siŵr bod pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant yn ymwybodol o'ch cais ac yn cytuno ag ef.  

Os yw'ch plentyn yn mynychu ysgol yn Wrecsam ar hyn o bryd, bydd y wybodaeth ar eich ffurflen gais (gan gynnwys y rhesymau dros symud) yn cael ei rhannu ag ysgol bresennol eich plentyn yn ogystal â'ch ysgol newydd ddewisol.

Os ydych chi wedi darllen yr uchod ac yn dal i fod eisiau parhau gyda chais i symud, gallwch ofyn am y ffurflenni symud ysgol angenrheidiol trwy e-bostio  Admissions@wrexham.gov.uk

Pryd fydda i'n clywed yn ôl?

Rhaid cwblhau pob rhan o'r ffurflen gais cyn y gall y tîm derbyn i ysgolion ddechrau ei phrosesu.  Mae hyn yn cynnwys y datganiad cyfrifoldeb rhiant ac, os ydych chi'n symud o ysgol sydd y tu allan i Wrecsam, y wybodaeth Adran C o ysgol bresennol eich plentyn y tu allan i'r sir.  

Os yw'r cais yn anghyflawn, bydd hyn yn oedi'r broses dderbyn.  

Unwaith y byddwn yn derbyn ffurflen gais wedi'i chwblhau, rydym yn anelu at ymateb i'ch cais o fewn 15 diwrnod ysgol.  Rhaid i’ch plentyn aros yn ei ysgol bresennol tra bod y cais i symud yn cael ei brosesu. 

Bydd y cais i symud yn cael ei ystyried yng nghyd-destun ein polisi derbyn, sydd i'w weld yn ein Canllaw i Rieni ar y Gwasanaethau Addysg. Os yw eich cais ar gyfer ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir (Ffydd) neu ysgol Sefydledig, bydd y cais yn cael ei drosglwyddo i'w Chorff Llywodraethu i'w ystyried, a bydd yr ysgol yn ymateb i chi'n uniongyrchol.  

Os nad yw cais i drosglwyddo yn llwyddiannus, bydd rhieni'n cael eu hysbysu o'u hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gwrthod. Nid yw'r hawl i apelio yn berthnasol ar y cam meithrin.

Protocol mynediad teg a symudiadau wedi’u rheoli – plant ag ymddygiadau heriol

Mae symudiad wedi’i reoli yn broses wedi’i chynllunio’n ofalus lle mae disgybl yn symud o un ysgol i'r llall. Mae'n gytundeb gwirfoddol rhwng dwy ysgol, y rhiant a'r disgybl. Gall fod yn arbennig o fuddiol i ddisgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, neu ddisgyblion y mae presenoldeb yn eu hysgol bresennol yn effeithio'n negyddol ar eu lles emosiynol.  

Am ragor o wybodaeth am y broses symudiadau wedi’u rheoli, gweler Symudiadau wedi’u rheoli.

Yn Wrecsam mae gennym hefyd brotocol mynediad teg sy'n anelu at sicrhau dyraniad teg ac agored o leoedd ysgol i ddysgwyr a allai fod yn wynebu heriau yn eu hysgol bresennol ac sy'n dymuno symud i ysgol newydd.  

Mae hyn yn golygu, pan fyddwn ni’n derbyn cais i symud ar gyfer dysgwr sydd wedi cael 20 diwrnod neu fwy o waharddiad yn ystod y 12 mis blaenorol, neu sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'i ysgol bresennol, byddwn yn mynd â'r cais i'n panel mynediad teg i nodi'r lle ysgol mwyaf priodol i ddiwallu anghenion y dysgwr a rhoi'r siawns orau iddo lwyddo yn ei ysgol newydd. Byddwn yn ysgrifennu atoch os yw'ch cais yn bodloni ein meini prawf mynediad teg.  
I gael rhagor o wybodaeth am ein protocol mynediad teg a'r broses hon, anfonwch e-bost at admissions@wrexham.gov.uk