I wneud cais ar-lein am addysg gynnar wedi’i ariannu, lle mewn dosbarth meithrin, dosbarth derbyn neu ysgol uwchradd bydd angen i chi gofrestru gyda FyNghyfrif (derbyniadau) (os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod).

Cofiwch wneud nodyn o’ch cyfrinair unwaith y byddwch wedi cofrestru – fe gewch chi e-bost a fydd yn cynnwys dolen i’w agor er mwyn cwblhau eich cais.

Yn ogystal â defnyddio eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol eich hun, gallwch wneud cais yn defnyddio cyfrifiaduron yn Galw Wrecsam ac yn llyfrgell Wrecsam os oes gennych chi gerdyn llyfrgelloedd Wrecsam. 

Wrth lenwi cais ar-lein...

  • Lluniwch ddrafft o'ch rhesymau am ddewis ysgol benodol cyn dechrau’r cais ar-lein, i arbed amser a lleihau'r risg o gael eich datgysylltu gan y system
  • Defnyddiwch lythrennau mawr ar gyfer llythrennau cyntaf enwau, er enghraifft: ‘Mr Joe Bloggs, Rose Jarvis, Ben Jones’
  • Defnyddiwch lythrennau mawr a gadewch fwlch rhwng y pedwar digid cyntaf wrth nodi codau post, er enghraifft: ‘LL12 6LD’ 
  • Dewiswch y cyfeiriad llawn yn hytrach na’r cod post yn unig wrth gofnodi cyfeiriad yr ymgeisydd (cyfeiriad y rhieni)
  • Lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddiwch y dewislenni cwympo i ddewis y lleoliadau hawl bore oes presennol a'r ysgolion a ddewiswyd
  • Os fyddai gan eich plentyn frawd neu chwaer yn mynychu’r ysgol o’ch dewis chi, ac yn yr ysgol ym mis Medi 2023, cofiwch ychwanegu’r wybodaeth hyn pan ofynnir amdano
  • Cofiwch ddewis sut yr hoffech dderbyn hysbysiadau am eich cais (trwy e-bost neu lythyr) 
  • Gallwch ddewis nifer o ysgolion, ond cofiwch eu rhestru yn eich trefn ddewisol, gallwch ddefnyddio ‘saethau i fyny a lawr’ i symud eich dewisiadau o gwmpas

Os byddwch chi’n ailgyflwyno eich cais am unrhyw reswm, bydd y system yn dewis dad chyflwynwyd 'heb ei gyflwyno' ar gyfer eich cais yn awtomatig. Os bydd hyn yn digwydd, ewch i waelod tudalen eich cais, ticiwch ar y dudalen telerau ac amodau, ac yna cliciwch ar y botwm ‘Cyflwyno’ eto hyd yn oed os nad ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau.