Cafodd Cynllun presennol y Cyngor ei gymeradwyo ym mis Mawrth 2022.  Mae’n nodi 6 egwyddor lles a gwella:

  • Datblygu a datgarboneiddio ein hamgylchedd
  • Datblygu'r economi
  • Sicrhau bod pawb yn ddiogel
  • Sicrhau cyngor modern a chryf
  • Gwella addysg uwchradd
  • Hyrwyddo Iechyd a lles da (gan ganolbwyntio ar wella Gwasanaethau Plant)

Caiff pob blaenoriaeth ei chefnogi gan Fwrdd Blaenoriaeth sy’n gyfrifol am gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y cynllun, a chyflwyno adroddiadau am y rhain i aelodau etholedig a’r cyhoedd.

Wrth weithio i gyflenwi’r blaenoriaethau gwella hyn, byddwn yn parhau i weithio gyda phobl leol i fod yn sail i’n hadolygiad nesaf o’r cynllun – gan ein helpu i ddeall sut y gallwn weithio orau gyda chymunedau lleol i gefnogi lles gwell o fewn ein cyllideb.

Egwyddorion cynllunio strategol

Rydym wedi diffinio saith egwyddor i'n cynorthwyo i gynllunio ac i alluogi'r gwasanaethau mwyaf effeithiol, cynaliadwy a theg ag y gallwn, o fewn yr adnoddau sydd ar  gael.  Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys: 

  • Daw atal yn gyntaf 
  • Blaenoriaethu’r pobl mwyaf diamddiffyn 
  • Cynllunio ar gyfer yr hirdymor
  • Ymgynghori a chynnwys pobl leol
  • Integreiddio rhwng adrannau’r cyngor
  • Cydweithio gyda phartneriaid eraill 
  • Y Gymraeg a Diwylliant (thema drawsbynciol ar draws pob blaenoriaeth) 

Ein gwerthoedd

Mae’r gwerthoedd hyn wedi eu defnyddio i ddiffinio ffyrdd y cyngor o weithio: 

  • Ymddiriedaeth
  • Parch
  • Arloesi
  • Hyblygrwydd
  • Gonestrwydd
  • Ymrwymiad

Fformat amgen

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg – i’w gweld cliciwch ar y ddolen “Cymraeg” ar frig y dudalen hon.

Mae’r ddogfen hon ar gael mewn ieithoedd heblaw’r Saesneg a’r Gymraeg ac mewn fformatau hygyrch megis print mawr, Braille, DVD Iaith Arwyddo Prydain, CD clywedol neu fformat electronig os gofynnwch amdanyn nhw.

Adborth

Mae croeso i chi anfon eich sylwadau ynglŷn â chynnwys a diwyg Cynllun y Cyngor. Os oes gennych chi awgrymiadau neu sylwadau ynglŷn â sut i wneud y cynllun yn fwy darllenadwy, neu os ydych o’r farn y dylai’r Cyngor ganolbwyntio ar feysydd eraill neu ychwanegol, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod. Bydd pob awgrym ynglŷn â meysydd eraill i ganolbwyntio arnynt yn cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith o reoli perfformiad a diweddaru’r cynllun hwn. Bydd sylwadau ynglŷn â’r cynllun yn cael eu hystyried cyn y dyddiad gyhoeddi nesa.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllun y Cyngor

Dyma ein hadroddiad perfformiad blynyddol yn erbyn ein targedau yng Nghynllun y Cyngor. Gweler y crynodeb gweithredol am fersiwn fyrrach.