Cafodd Cynllun presennol y Cyngor ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2020. Mae’n nodi 6 egwyddor lles a gwella:
- Datblygu’r economi
- Sicrhau bod pawb yn ddiogel
- Sicrhau cyngor modern a chryf
- Gwella'r amgylchedd
- Gwella addysg uwchradd
- Hybu iechyd a lles da (gyda ffocws ar wella gwasanaethau plant)
Caiff pob blaenoriaeth ei chefnogi gan Fwrdd Blaenoriaeth sy’n gyfrifol am gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y cynllun, a chyflwyno adroddiadau am y rhain i aelodau etholedig a’r cyhoedd.
Wrth weithio i gyflenwi’r blaenoriaethau gwella hyn, byddwn yn parhau i weithio gyda phobl leol i fod yn sail i’n hadolygiad nesaf o’r cynllun – gan ein helpu i ddeall sut y gallwn weithio orau gyda chymunedau lleol i gefnogi lles gwell o fewn ein cyllideb.
Caiff y cynllun ei adolygu’n ffurfiol gan y Cyngor yn 2022.
Canolbwyntio ar ein perfformiad
Dyma ein hadroddiad perfformiad blynyddol yn erbyn ein targedau yng Nghynllun y Cyngor. Gweler y crynodeb gweithredol am fersiwn fyrrach.