Rydym yn llunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) bob pedair blynedd (sy’n ofynnol yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010).
Mae ein cynllun diweddaraf yn egluro ein hamcanion cydraddoldeb presennol, sef:
- Cau’r bwlch cyrhaeddiad mewn addysg (gyda ffocws penodol ar gyflawniad bechgyn, hygyrchedd adeiladau ysgolion a chefnogi plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gyflawni eu potensial)
- Ymgysylltu â’r rhai sydd yn chwilio am waith ac yn darparu gwaith yn y fwrdeistref sirol er mwyn helpu i gynyddu nifer y bobl anabl sydd yn cael cyfleoedd i weithio a chodi ymwybyddiaeth am y bwlch cyflog i’r grŵp yma
- Gwella hygyrchedd y cyngor
- Cynnwys pawb a sicrhau ein bod yn defnyddio gwybodaeth am y rhai sydd yn defnyddio ein gwasanaethau, gan gynnwys y rhai â nodweddion a ddiogelir, i wneud penderfyniadau da
- Hyrwyddo a dathlu amrywiaeth ethnig ein cymunedau gan sicrhau eu bod yn gynhwysol a chroesawgar
- Cefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth leol
- Gwella amrywiaeth a mynd i’r afael â bylchau cyflog yng ngweithlu’r cyngor
Mae ein cynllun yn egluro sut gwnaethom ddatblygu'r amcanion hyn (yn cynnwys pwy wnaeth ein helpu i’w datblygu).
Mae’r amcanion wedi eu cynnwys fel rhan o Gynllun y Cyngor 2020-23. Gallwch wirio ein cynnydd yn erbyn yr amcanion hyn fel rhan o’n hadroddiadau perfformiad Cynllun y Cyngor, sydd ar gael ar ein tudalen Cynllun y Cyngor.