Gall sŵn ailadroddus a/neu synau uchel iawn sy’n cael eu gwneud yn rheolaidd gan gymdogion achosi straen a gall wneud bywyd yn y cartref yn ddigalon (yn enwedig i bobl sy’n gaeth i’w tai neu sydd â phroblemau iechyd).

Nid yw synau annifyr bob amser yn cael eu hachosi’n uniongyrchol gan ymddygiad anystyriol (er enghraifft efallai bod gan rai cartrefi ddiffyg inswleiddiad sŵn) ond dylech bob amser geisio bod yn ymwybodol o sut mae synau eich gweithgareddau yn gallu effeithio ar eich cymdogion. Efallai nad ydych yn sylweddoli bod sŵn siarad yn gallu bod yr un mor uchel ag unrhyw sŵn arall a bod gweithgareddau cyffredin fel chwarae offerynnau, dyletswyddau'r cartref a phartïon yn gallu bod yn boen i’ch cymdogion.

Os yw’n bosibl, mae’n well eich bod yn rhoi gwybod i’ch cymydog os ydych yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw dasgau swnllyd. Fel arfer dylai gweithgareddau swnllyd gael eu gwneud yn ystod oriau rhesymol – heb fod yn gynnar yn y bore a chyn dechrau’r nos.

Yr enghreifftiau canlynol yw’r mathau o niwsans sŵn mwyaf cyffredin sy'n arwain at gwynion, ond yn aml gellir cymryd camau syml i sicrhau nad yw’r sŵn yn tarfu ar gymdogion.

Sŵn wedi’i chwyddo

Sŵn wedi’i chwyddo, er enghraifft sŵn teledu, cerddoriaeth a radio, yw un o’r ffynonellau sŵn sy’n arwain at y mwyaf o gwynion.

Gofalwch eich bod yn troi’r sain i lawr os ydych yn gwylio teledu, chwarae gemau cyfrifiadurol, chwarae offeryn cerdd, neu wrando ar gerddoriaeth/radio (yn eich cartref ac yn eich car) yn enwedig ar ôl dechrau’r nos a chyn y bore cyntaf.

Wrth chwarae cerddoriaeth wedi’i chwyddo peidiwch â gosod y seinyddion/radio wrth waliau, lloriau neu nenfydau yr ydych yn eu rhannu gyda chymydog a gosodwch y lefel bas yn isel. Gall gosod seinyddion ar ddeunydd insiwleiddio leihau’r sain sy'n cael ei drawsyrru.

Dylech ddefnyddio clustffonau lle bo hynny’n bosibl, ond os ydych yn chwarae cerddoriaeth/radio yn uchel ar sain uwch (yn eich cartref neu yn eich car) cadwch y ffenestri a'r drysau i gyd ar gau.

Os ydych yn chwarae cerddoriaeth yn yr awyr agored ceisiwch gadw'r sain ar lefel na ellir ei glywed y tu allan i ffiniau’ch tir eich hun.

Perchnogion cŵn

Os oes gennych gi, dyma gamau y dylech eu cymryd i wneud yn siŵr nad yw’ch ci yn achosi niwsans sŵn i’ch cymdogion trwy gyfarth neu nadu yn ormodol. Gall cŵn gyfarth mwy na'r disgwyl am sawl rheswm gan gynnwys diflastod, unigrwydd, ofn neu ymddygiad tiriogaethol.

Rhesymau posibl dros gŵn yn cyfarth yn ormodol a’r hyn y gallwch ei wneud

Gall cŵn gyfarth os oes ganddyn nhw ofn rhywbeth, yn enwedig synau uchel fel tân gwyllt. Er mwyn eu tawelu dylech eu cadw dan do gan gau ffenestri a llenni fel nad ydynt yn gallu gweld unrhyw beth sy'n sbarduno’r ofn. Gallwch hefyd geisio gwneud yn siŵr eu bod mewn ardal gyfforddus en enghraifft ystafell dywyll, yn ogystal â gadael teledu neu radio ymlaen yn isel yn y cefndir.

Os yw’ch ci wedi diflasu neu os yw’n unig gall ymddwyn mewn ffordd sy'n mynnu sylw, gan gynnwys cyfarth a nadu. Gofalwch bod eich ci yn cael digon o ymarfer corff dyddiol a darparwch deganau diogel a diddorol iddynt. Dylech osgoi gadael eich ci ar ei ben ei hun am gyfnodau hir gan y gall hynny arwain at orbryder, a dylech ei gadw dan do pan nad ydych yn gallu ei oruchwylio. Gall lledaenwr fferomonau hefyd helpu'ch ci i dawelu pan fydd yn cael ei adael ar ei ben ei hun. 

Os yw’ch ci yn dal i gael anhawster ag ofnau neu orbryder gallwch siarad gyda’ch milfeddyg i gael cyngor ynglŷn â ffyrdd eraill o helpu. Efallai y bydd y milfeddyg yn edrych a oes rheswm meddygol dros y gorbryder neu awgrymu therapi ymddygiad ar gyfer eich ci.

Gall cŵn hefyd gyffroi pan fydd ymwelwyr yn galw, pan ydych yn nôl eu tennyn neu pan ydych yn paratoi eu bwyd. Gallwch hyfforddi’ch ci trwy dalu sylw iddo pan fydd yn dawel ac yn llonydd a rhoi canmoliaeth iddo am ymddygiad da. Gallwch wneud hyn trwy ddweud wrth y ci am 'eistedd’ neu 'aros’ os yw’n dechrau cyfarth, a’i wobrwyo (ar lafar, gyda’i hoff degan neu gyda ei hoff fwyd) ar ôl iddyn nhw dawelu. Gall yr hyfforddiant hefyd gynnwys osgoi rhoi sylw i’r ci pan fydd yn or-gyffroes neu'n ceisio cael sylw (trwy beidio â chyffwrdd, edrych, siarad neu weiddi arno). Gall rhoi potyn o bethau da wrth y drws a gofyn i’ch ymwelwyr ddweud wrth eich ci am eistedd, ac aros iddo dawelu, cyn rhoi’r peth da iddo helpu hefyd.

Efallai y bydd eich ci yn cyfarth er mwyn ‘gwarchod ei diriogaeth’ pan fydd yn gweld neu’n clywed pobl sy’n ymddangos fel ymwthiwr er enghraifft postmon. Gallwch fynd a'ch ci i gael ei ysbaddu er mwyn osgoi ymddygiad tiriogaethol.

Gall ansawdd y bwyd a ddewiswch i’ch ci effeithio ar ei ysbryd hefyd gan fod bwydydd o ansawdd isel yn cynnwys ychwanegion artiffisial sy’n gallu achosi gorfywiogrwydd. Prynu bwyd ci sy’n defnyddio ychwanegiadau naturiol yw’r syniad gorau er mwyn atal hyn.

Chwarae drymiau

Os ydych yn berchen ar git drymiau traddodiadol mae llawer o bethau y gallwch ei wneud i leihau’r risg o achosi niwsans sŵn pan fyddwch yn ymarfer yn y cartref. Dylech gynnal eich sesiynau ymarfer ar amseroedd rhesymol – fel arfer rhwng 9am a 7pm. Ni ddylai sesiynau bara mwy na 30 munud bob tro a dylid ceisio peidio â chynnal ymarferion ar benwythnosau/gwyliau banc cymaint ag sy'n bosibl.

Ceisiwch sicrhau bod eich cymdogion yn gallu clywed cyn lleied ag sy'n bosibl o sŵn pan fyddwch yn ymarfer

Gallwch wneud llai o sŵn gyda drymiau trwy ddefnyddio padiau ymarfer – disgiau rwber a osodir ar ben croen y drwm a symbalau. Gallwch dynnu’r rhain yn hawdd ar gyfer perfformiadau/ymarferion mewn lleoliadau annomestig. Gallwch hefyd roi clustog mawr neu hen gwilt yn y drwm bas i leihau’r sain. Gallwch hefyd rhoi citiau drymiau ar fat rwber trwchus neu fat ewyn dwys i leihau'r sain sy'n mynd trwy'r llawr - mae hen is-garbed neu garped yn ffordd rad o wneud hyn.

Ni ddylech osod citiau drymiau mewn ystafelloedd sy’n rhannu waliau gyda’ch cymdogion. Gofalwch bod eich ffenestri wedi cau pan fyddwch yn ymarfer – gall llenni trwchus helpu i atal sŵn rhag dianc hefyd. Nid oes gan ystafelloedd gwydr briodweddau insiwleiddio sain da felly peidiwch â’u defnyddio fel ystafelloedd ymarfer.

Gallech ystyried cael cit drymiau electronig yn lle cit traddodiadol. Gallwch chwarae drymiau electronig mor uchel ag y mynnwch trwy ddefnyddio clustffonau. Prin iawn yw’r sŵn y byddant yn ei gynhyrchu yn eu hamgylchedd pan fyddant yn cael eu chwarae fel hyn - ond efallai y bydd angen i chi eu gosod ar wyneb sy'n lleihau sŵn os oes unrhyw sŵn gormodol.

Larymau lladron sy’n canu

Os ydych yn berchen ar larwm lladron sy’n canu neu os ydych yn bwriadu prynu un, mae ychydig o bethau y gallwch ei wneud er mwyn sicrhau nad yw'n achosi unrhyw niwsans sŵn. Dylech ddewis larwm sydd â dyfais awtomatig sy’n stopio’r larwm rhag canu ar ôl 20 munud (ond bydd unrhyw oleuadau ar y larwm yn dal i fflachio i ddangos bod y larwm yn dal i fod yn weithredol ar yr eiddo).

Enwebu deiliaid allweddi

Dylech enwebu deiliaid allweddi (ffrindiau neu gymdogion sy’n byw gerllaw) i gadw allweddi i’r eiddo pan na fyddwch yno. Os nad ydych yn enwebu’ch cymdogion i gadw allweddi, gofalwch eu bod yn gwybod pwy yw’r deiliaid allweddi.

Dylech hefyd roi manylion eich deiliaid allweddi i’r heddlu ac i ni (eich cyngor lleol), fel bo modd cysylltu â nhw i dawelu’r larwm os yw'n canu'n barhaus oherwydd nam, hyd yn oed os ydych wedi mynd i ffwrdd. I gofrestru manylion eich deiliaid allweddi llenwch y ddwy ffurflen isod a’u dychwelyd.

Larymau cerbydau

Os yw larwm eich cerbyd yn canu’n barhaus oherwydd nam, gall hyn achosi niwsans sŵn.

Os yw’ch cerbyd wedi’i adael ar stryd, nid oes angen gwarant arnom i wneud gwaith i atal yr hyn sy'n achosi'r niwsans sŵn. Mae ‘stryd’ yn golygu priffordd, ffordd, troedffordd, sgwâr neu gwrt sydd ar agor i’r cyhoedd.

Os yw’ch cerbyd wedi’i adael mewn eiddo preifat, bydd angen gwarant arnom i wneud gwaith i atal yr hyn sy'n achosi'r niwsans sŵn. Byddwn yn ymchwilio i darddiad y sŵn, cynnal chwiliad gyda’r DVLA er mwyn nodi pwy ydych chi fel perchennog y car, ac os oes modd dod o hyd i chi, rhoi rhybudd i chi ddiffodd y larwm.

Gallwn ddiffodd larymau a/neu symud y cerbyd awr ar ôl cyflwyno’r rhybudd. Defnyddir cwmnïau arbenigol i ddiffodd a/neu symud cerbydau ar ein rhan.

Os ydych yn berchen ar y cerbyd sy’n achosi’r niwsans sŵn ac os oes angen i ni weithredu, byddwch yn cael bil am gostau diffodd y larwm a/neu symud y cerbyd. Byddwch hefyd yn talu am amser swyddogion ac unrhyw rybudd a gyflwynwyd fel sy’n briodol.

Gwaith DIY

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith DIY y gwyddoch sy’n mynd i fod yn swnllyd, rhowch wybod i’ch cymdogion yn gyntaf a cheisiwch ei wneud yn ystod oriau rhesymol yn y dydd (heb fod yn gynnar yn y bore a chyn dechrau'r nos. Yn ddelfrydol dylech ddweud wrth eich cymdogion pa waith yr ydych yn ei wneud a faint o amser y mae’n debygol o'i gymryd.

Gorffen y gwaith yn ystod oriau rhesymol yn y dydd ac mor gyflym ag sy’n bosibl yw’r ffordd orau o wneud yn siŵr nad ydych yn tarfu ar eich cymdogion gyda gwaith DIY swnllyd.

Perchnogion ieir

Os ydych yn bwriadu cadw ieir fel anifeiliaid anwes, dylech wirio gweithredoedd eich eiddo neu holi’ch landlord i wneud yn siŵr bod gennych hawl i gadw ieir ar yr eiddo.

Efallai y bydd angen i chi hefyd wirio a oes angen caniatâd cynllunio arnoch i osod cwt addas i’ch anifeiliaid – nid yw hynny’n ofynnol fel arfer ond mae'n werth gwirio bob tro.

Dim ond os ydych yn byw y tu allan i drefi y dylech gadw ceiliogod yn Wrecsam a dylech eu cadw o fewn ffiniau eich tir eich hun. Mae ceiliogod yn tueddu i glochdar wrth iddi oleuo ac mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau’r risg o greu niwsans sŵn.

Os oes gennych ddigon o dir ar gyfer eich ieir yna dylech osod y cwt ieir ar y pwynt pellaf oddi wrth eich cymdogion, a dylai'r drws wynebu yn groes i'r prif wyntoedd. Gall coed a llwyni hefyd helpu i rwystro rhywfaint o’r sŵn sy’n cyrraedd cymdogion.

Gall rhoi ceiliogod mewn cwt ieir tywyll dros nos fod yn help fel nad ydynt yn gallu gweld y wawr, yn ogystal â’u gadael allan o’r cwt ieir yn hwyrach yn y bore. Gallwch hefyd gael cwt ieir sydd â nenfwd isel neu osod silff yn y cwt ieir fel bo’r ceiliog yn gallu cerdded o gwmpas ar uchder arferol ond heb ymestyn ei wddf i glochdar.

Fel arfer, ni ddylid cadw mwy nag un ceiliog na gwahanol fridiau o geiliogod gyda'i gilydd ar yr un tir gan y gall hyn waethygu'r problemau sŵn.

Gall ieir sy’n clochdar achosi niwsans sŵn hefyd, ond mae hynny’n llai cyffredin. Newid mewn hormonau yw’r prif reswm dros ieir yn clochdar ac mae’n bosibl bod hynny oherwydd ofari heintus neu diwmor yn y rhan hwnnw o’r corff.

Arwyddion eraill sy’n gallu golygu newid mewn hormonau (ar wahân i glochdar) yw crib chwyddedig, tyfu plu gwrywaidd ar ôl bwrw plu a cheisio mynd ar gefn ieir eraill. Gall gwrthfiotigau helpu iâr sydd ag ofari heintus neu gall wella ar ei ben ei hun, ond ni ellir trin tiwmor.

Os ydych yn cadw llai na 50 o adar gallwch ddewis cofrestru’n wirfoddol â Chofrestr Ddofednod Prydain Fawr (mae’r rheiny sy’n cadw 50 neu fwy o adar yn gorfod cofrestru fel ceidwad dofednod yn unol â'r gyfraith). Fe’ch argymhellir i gofrestru’n wirfoddol er mwyn galluogi’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i gysylltu â chi os oes salwch heintus (er enghraifft ffliw adar) yn mynd o gwmpas eich ardal a gallwch helpu i atal yr haint rhag lledaenu.

Sŵn adeiladu

Os ydych yn ddatblygwr gallwch wneud cais i ni am ganiatâd ymlaen llaw i gynnal gwaith adeiladu swnllyd dan adran 61 Deddf Rheoli Llygredd. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

Gwnewch gais am ganiatâd o flaen llaw

Dechrau

Pan fo caniatâd yn cael ei roi, mae’n eithrio’r ymgeisydd rhag camau gorfodi dan adran 60 (rheoli sŵn safleoedd adeiladu) y Ddeddf.

 

Dylai oriau adeiladu gweithredol fod yn gyfyngedig. Fel arfer rydym yn awgrymu y dylai gwaith gael ei wneud rhwng 7:30 a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am a 2pm ar ddydd Sadwrn, a dim gwaith o gwbl ar ddydd Sul a Gŵyl y Banc.

Dylai’r holl offer gyrraedd safonau lefelau sŵn yr UE. Dylai'r holl offer gael eu tawelu a dylid gosod sgriniau acwstig lle bo hynny’n bosibl. Dylid ystyried gostwng lefelau sŵn gweithgareddau swnllyd iawn er enghraifft defnyddio dulliau hydrolig neu ebillio i osod pyst seiliau yn hytrach na dulliau ergydiol.

Dylai’ch arferion ar y safle gydymffurfio â Chod Ymarfer BS 5228 sy’n darparu canllawiau ar reoli sŵn ar safleoedd adeiladu.

Dylech adael i breswylwyr cyfagos wybod ymhell o flaen llaw am unrhyw weithgareddau arbennig o swnllyd a ddisgwylir. Ar gyfer prosiectau mwy dylid gwneud trefniadau cyfathrebu mwy ffurfiol i sicrhau bod y gymuned leol yn cael ei hysbysu’n effeithiol.

Canu clychau eglwys

Dylid canu clychau eglwys yn unol ag amserlen a gytunwyd lle bo hynny’n bosibl fel nad yw'r sŵn yn tarfu yn ddiangen ar breswylwyr. Gall clychau eglwys gael eu canu yn unol ag amserlen ar gyfer gwasanaethau ac yn ystod sesiynau ymarfer, yn ogystal ag angladdau a phriodasau achlysurol.

Gall clychau eglwys gyfrif fel niwsans sŵn os yw’r clychau’n cael eu canu y tu allan i’r amserlen.