Mae grantiau datblygu ar gael gan y Tîm Gofal Plant i helpu lleoliadau gofal plant gyda chynaliadwyedd, gwella ansawdd a chynhwysiant.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod eich lleoliad wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), neu yn y broses o wneud hynny.
Pwrpas y Grant Datblygu Gofal Plant
Mae’r grant wedi’i fwriadu i gefnogi lleoliadau sy’n dymuno datblygu eu gwasanaeth. Fel darparwr, gallwch ymgeisio am y grant hwn am amryw resymau, gan gynnwys er mwyn...
- goresgyn materion/pryderon sy’n effeithio ar gynaliadwyedd eich lleoliad
- ehangu’r gwasanaeth mae eich lleoliad ar hyn o bryd yn ei gynnig a chynnig gwasanaethau ychwanegol lle mae’n amlwg bod galw
- cefnogi datblygu ymarfer cynhwysol lle mae angen gwneud hynny
- gwella ansawdd darpariaeth lle mae pryderon am ansawdd ar hyn o bryd
Canllawiau cyn ymgeisio
Sut allaf i ymgeisio am Grant Datblygu Gofal Plant?
Gallwch ymgeisio gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Cyn cychwyn ar gais, bydd angen i chi greu proffil ‘FyNghyfrif’ (os nad ydych chi wedi’n barod).
Byddwch yn gallu gweld copi o’r cais rydych wedi’i gyflwyno ar FyNghyfrif, pan fyddwch wedi mewngofnodi, o dan yr adran ‘Fy Ngheisiadau’ (fersiwn darllen yn unig fydd y cais – nid oes opsiwn i addasu eich cais ar ôl ei gyflwyno). Byddwch hefyd yn gallu gweld pob cais sydd wedi’i gwblhau drwy borth FyNghyfrif.
Os oes angen, gallwch wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen bapur yn lle (gallwch lenwi hon yn electronig a’i gyrru drwy e-bost, neu ei hanfon drwy’r post). Gallwch ofyn am ffurflen gais bapur ar gyfer y Grant Datblygu Gofal Plant trwy anfon e-bost at y Tîm Gofal Plant ar childcareteam@wrexham.gov.uk.
Ar ôl derbyn y cais ar gyfer eich lleoliad, bydd y Tîm Gofal Plant yn rhoi gwybod i chi am ddyddiad cyfarfod nesaf y panel a dyddiad tebygol y canlyniad.