Mae Tîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i, ac yn angerddol dros helpu busnesau’r ardal i lwyddo. 

Rydym yn cynnig cymorth diduedd a chyfrinachol am ddim i fusnesau sydd eisoes yn masnachu yn Wrecsam neu sydd â’u bryd ar symud yma. 

Cyflwyno ymholiad 

Gofynnwch am wybodaeth, neu gwnewch apwyntiad.

Dechreuwch rŵan

 

Sut y gallwn helpu eich busnes

I roi syniad bras i chi, gallwn:

Gwasanaethau ac adnoddau arbenigol ar gyfer busnesau newydd

Marchnata eich busnes yn effeithiol

Yn aml iawn denu cleientiaid a sicrhau gwerthiannau yw’r pethau mwyaf anodd am redeg busnes. 

Rydym yn cynnig cymorth marchnata i’ch helpu i: 

Gallwn hefyd roi gwybod i chi am gyfleoedd masnachu mewn digwyddiadau / marchnadoedd, yn ogystal â gweminarau a gwasanaethau cymorth eraill a allent eich helpu i godi proffil eich busnes ar-lein.  

Llenwch ein ffurflen ymholiadau i wneud cais am gymorth marchnata ac awgrymiadau ar gyfer eich busnes. 

Dod o hyd i dueddiadau yn y farchnad

Gallwn gynnig mynediad at amrywiaeth o adroddiadau ymchwil y farchnad blaenllaw, a allai helpu os:

  • yw eich busnes yn arallgyfeirio i farchnad newydd
  • os ydych yn gwneud cais am gyllid ar gyfer eich busnes 
  • os oes gennych ddiddordeb mewn adnabod rhagolygon twf y farchnad y mae eich busnes yn rhan ohoni

Mae’r adroddiadau sydd ar gael yn cwmpasu llawer o sectorau a diddordebau ac yn rhoi gwybodaeth fel:

  • y tueddiadau presennol a’r rhai a ragwelir ar gyfer y dyfodol o fewn sectorau penodol o'r farchnad.
  • data demograffig lleol
  • ystadegau am niferoedd cwsmeriaid  
  • tueddiadau twristiaeth 

Y darparwr ymchwil y farchnad mwyaf nodedig y gallwn ddarparu mynediad rhad ac am ddim ato yw IBIS World - un o ffynonellau cyfoethocaf y DU o wybodaeth am fusnes a’r diwydiant. Mae eu hadroddiadau, sydd fel arfer yn costio tua £500 i’w prynu, ar gael am ddim trwy ein gwasanaeth.  Maent yn darparu ymchwil annibynnol, cywir, cynhwysfawr a chyfredol ar gannoedd o sectorau marchnad y DU.  
 

Templedi dogfennau / contractau a pholisïau enghreifftiol

Gallwn ddarparu mynediad am ddim at dros 1,000 o ddogfennau busnes cyfredol, y gellir eu haddasu o gronfa ddata cyngor a chymorth busnes Indicator - FL Memo (dolen gyswllt allanol).

Mae’r templedi dogfennau a’r polisïau model sydd ar gael yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys cyfraith cyflogaeth, diogelwch tân, adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, rhestrau gwirio ar gyfer busnes, rheolaeth cyllid a chyfrifyddiaeth. 

Mae’r holl ddogfennau wedi’u hysgrifennu’n gryno ac mewn iaith syml ac yn barod i’w defnyddio ar unwaith. Llenwch ein ffurflen ymholiadau os hoffech wneud cais am y templedi dogfennau a’r polisïau model sydd ar gael (gellir darparu hyd at 10 y mis). 

Ymchwilio i’ch cystadleuwyr neu ddod o hyd i gyflenwyr

Gallwn ddarparu rhestrau o gystadleuwyr neu gyflenwyr ar lefel leol, rhanbarthol neu genedlaethol. 

Bydd y wybodaeth y gallwn ei darparu yn caniatáu i chi ddadansoddi eich cystadleuwyr o ran lleoliad, y niferoedd a gyflogir a chyfraddau trosiant, yn ogystal ag adnabod unigolyn cyswllt enwebedig. 

Llenwch ein ffurflen ymholiadau os hoffech gael manylion am eich cystadleuwyr (os ydynt ar gael), neu gyflenwyr perthnasol ar gyfer eich busnes.

Adroddiadau statws credyd Experian am ddim

Diogelwch eich busnes rhag gweithio gyda busnesau sydd â sgôr credyd gwael.

Bydd yr adroddiadau credyd gan Experian yn cynnig tawelwch meddwl i chi, p’un a hoffech chi: 

  • ymchwilio a oes gan fusnes y modd i dalu am unrhyw nwyddau/gwasanaethau y gofynnwyd i chi eu darparu 
  • diogelu eich hun rhag dechrau busnes gydag unrhyw gyflenwyr mewn sefyllfa ariannol wael 
  • ymchwilio i ddarpar bartneriaid busnes cyn llofnodi contract 

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiadau yn cynnwys:

  • Crynodeb cyffredinol o’r cwmni
  • Dadansoddiadau ariannol a gwybodaeth am risg
  • Manylion y perchnogion a’r cyfarwyddwyr
  • Sgôr credyd misol a newidiadau i’r terfyn credyd 
  • Gwybodaeth am berfformiad talu (ar gael ar gyfer llawer o gwmnïau)

Mae adroddiadau ar gael am unrhyw gwmni cyfyngedig yn y DU, ac mae adroddiadau mwy cryno hefyd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau anghorfforedig. 

Llenwch ein ffurflen ymholiad ar-lein i ofyn am adroddiad credyd, gan ddarparu enw’r cwmni neu fusnes ac, os gallwch chi, eu swyddfa gofrestredig / cyfeiriad masnachu a’u gwefan.

Chwilio am grantiau a chyllid

Mae grantiau’n cynnig cyllid nad oes angen ei dalu’n ôl a gallant eich helpu i:

  • Dyfu ac ehangu eich busnes
  • Marchnata a hyrwyddo eich busnes 
  • Adnewyddu / datblygu safle
  • Recriwtio staff
  • Hyfforddi eich gweithlu

Gallwn roi gwybod i chi am gynlluniau grant lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y gallech fod yn gymwys i wneud cais amdanynt. Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth am ddarparwyr cyfalaf menter, benthyciadau, platfformau cymheiriaid a chystadlaethau gyda gwobrau ariannol. 

Gallwch wneud cais am chwiliad cyllid i ddod o hyd i ffynonellau cyllid posibl drwy lenwi’r ffurflen ymholiadau. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn seiliedig ar gynlluniau cyllid sydd wedi’u rhestru fel rhai sydd ar agor am geisiadau ar gronfeydd data cyllid trydydd bartïon. 

Gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gyfleoedd am gyllid. 

Taflenni ffeithiau

Gallwn hefyd ddarparu mynediad at amrywiaeth eang o daflenni ffeithiau sydd wedi’u hanelu at eich cynorthwyo chi â rhedeg eich busnes o ddydd i ddydd. Llenwch ein ffurflen ymholiadau gan nodi cyfeirnod a theitl pob taflen ffeithiau sydd o ddiddordeb, hyd at uchafswm o 10. 

Cyfleoedd rhwydweithio lleol

Gallwch ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi’) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd rhwydweithio sydd ar ddod. 

Llyfrgell fusnes

Mae amrywiaeth o lyfrau ar gael gan Lyfrgelloedd Wrecsam am nifer o bynciau busnes (ar gyfer busnesau newydd a rhai sydd wedi’u sefydlu). 
Gallwch bori’r catalog ar-lein i chwilio am lyfrau a allent fod o ddiddordeb neu o ddefnydd.

Byddwch yn gallu dod o hyd i wybodaeth am sut i ymaelodi â’r llyfrgell a defnyddio’r gwasanaeth ar dudalennau’r llyfrgell