Tenantiaid y cyngor

Dylai eich cartref fod yn lle diogel i chi fwynhau bod ynddo, ac mae hawl gennych i fyw’n heddychlon heb i ymddygiad gwrthgymdeithasol a chymdogion afreolus effeithio arnoch chi.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi boddhaol mewn amgylchedd diogel i bobl sydd eu hangen.

Niwsans sŵn

Mae niwsans yn cynnwys sŵn parhaus/uchel a allai beri gofid i eraill yn eu cartref.

Mae’n hollbwysig eich bod yn parchu preifatrwydd a chysur eich cymdogion ac nad ydych yn achosi sŵn nac annifyrrwch i eraill. Gallai achosi niwsans sŵn arwain at dorri amod yn eich prydles, yna gallai camau gael eu cymryd yn eich erbyn chi, ac mewn achosion difrifol, gallech golli eich cartref.

Delio â niwsans sŵn

Os byddwch yn profi niwsans sŵn a achosir gan eich cymdogion, dylech ddilyn y camau hyn:

Wedi ei achosi gan lesddeiliad...

  • Yn gyntaf oll, cysylltwch â'ch cymydog a gofyn iddynt (mewn modd rhesymol) roi'r gorau i'r sŵn
  • Gallech hefyd gysylltu â’n hadran Iechyd yr Amgylchedd i gael cyngor. Mewn rhai achosion, efallai y gallant erlyn
  • Gallech gymryd camau preifat drwy’r llysoedd yn erbyn y sawl sy’n achosi’r sŵn, dylech gael cyngor gan gyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth yn y lle cyntaf

Wedi ei achosi gan denant i’r Cyngor...

  • Yn gyntaf oll, cysylltwch â'ch cymydog a gofyn iddynt (mewn modd rhesymol) roi'r gorau i'r sŵn
  • Os yw’r sŵn yn parhau, cysylltwch â'ch swyddfa stad dai leol neu defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am sŵn niwsans. Bydd gofyn i chi gadw dyddiadur o amseroedd, dyddiadau a’r mathau o sŵn. Bydd y swyddfa dai yn egluro pam fod angen i chi gadw’r dyddiadur hwn a’r ffordd orau o’i lenwi. Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn a byddwn yn penderfynu a oes angen cymryd achos llys yn erbyn y troseddwyr

Rhoi gwybod am sŵn niwsans ar-lein

Dechreuwch rŵan

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn

Gallwch gysylltu â’ch swyddfa stad dai leol.

Tîm gorfodi

Mae’r tîm gorfodaeth tai yn delio ag achosion difrifol o niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a achosir gan denantiaid y cyngor. Byddwn yn trin popeth y dywedwch wrthym yn gyfrinachol.

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem i’ch swyddfa stad dai leol, bydd swyddog tai yn ymchwilio i’r mater. Gall hyn gynnwys cysylltu â’r rhai sy’n achosi’r broblem, yn ogystal â chydweithio ag adrannau eraill y cyngor (fel y gwasanaethau amgylcheddol, pan fod achosion o dipio anghyfreithlon neu niwsans sŵn, y gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth troseddau ieuenctid, ac asiantaethau allanol fel yr heddlu).

Os yw’r sefyllfa’n un fwy difrifol, neu’n gwaethygu, mae sawl modd y gallwn weithredu i helpu rhoi diwedd ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallai rhai ohonynt gynnwys achos llys. Unwaith fo’r tîm yn deall y problemau rydych yn eu profi, gallant benderfynu ar y dull gweithredu gorau i’w gymryd, dyma rai o’r camau posibl...

  • Contractau ymddygiad derbyniol, neu orchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol, i atal troseddwyr
  • Gwaharddebau
  • Troi allan – lle bo hynny’n briodol ac fel dewis olaf