Recriwtio

Adnoddau ar gyfer cyngor, cefnogaeth a hyrwyddo swyddi gwag i’ch helpu i gyflogi staff:

Gwasanaethau lleol

Gallwch hefyd gysylltu â thîm Cymunedau am Waith+ Wrecsam i drafod lleoliadau gwaith y gallwch eu cynnig.

Adnoddau gan ein tîm busnes a buddsoddi

Mae ein tîm Busnes a Buddsoddi yn gallu darparu mynediad at amrywiaeth o adnoddau sy’n arwain y farchnad:

Mynediad at ddogfennau / templedi contract a model o bolisïau

Gallwn ddarparu mynediad am ddim i fwy na 1,000 o ddogfennau busnes a modelau o bolisïau cyfredol o Indicator - FL Memo cronfa ddata busnes awgrymiadau a chyngor (dolen gyswllt allanol), sy’n cynnwys testunau megis cyfraith cyflogaeth, diogelwch tân, AD, iechyd a diogelwch ac ati. 

Cwblhewch ein ffurflen ymholiadau os hoffech wneud cais am restr o’r holl dempledi o ddogfennau a model o bolisïau sydd ar gael trwy’r adnodd (gallwch wneud cais am hyd at 10 bob mis).

Taflenni ffeithiau cyflogi a rheoli staff

Gallwch gwblhau ein ffurflen ymholiad i ofyn (uchafswm o hyd at 5 bob wythnos, at eich defnydd eich hun) am unrhyw un o’r taflenni ffeithiau isod sydd o ddiddordeb. Nodwch y nifer a’r teitl yn eich cais.

Mae’r taflenni ffeithiau hyn yn cael eu diweddaru’n barhaus gyda newidiadau mewn rheoliadau. 

  • BIF477 - Canllaw i Reoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010
  • BIF473 - Canllaw i’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • BIF535 - Canllaw i’r Ddeddf Mewnfudo 2016
  • BIF316 - Canllaw i Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006
  • BIF316 - Canllaw i Reoliadau Oriau Gwaith 1998
  • BIF558 - Prentisiaethau ar gyfer Cyflogwyr Bychain yng Nghymru
  • BIF383 - Buddion Mewn Da a roddir i Weithwyr
  • BIF241 - Rhestr Wirio ar gyfer Cyflogwyr am y Tro Cyntaf
  • BIF084 - Rhestr Wirio ar gyfer Ymsefydlu Gweithiwr Newydd
  • BIF036 - Rhestr Wirio ar gyfer Recriwtio Staff
  • BIF371 - Dewis a Defnyddio Asiantaeth Recriwtio
  • BIF255 - Sut i Wirio Cofnodion Troseddol yng Nghymru a Lloegr
  • BIF464 - Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno
  • BIF525 - Cynlluniau Rhannu Gweithiwr
  • BIF336 - Nawdd Cyflogwyr i Geisiadau Fisa Gwaith
  • BIF213 - Rhestr Wirio Cyflogwyr ar gyfer Cyfweliadau Swydd
  • BIF556 - Canllaw i Gyflogwyr i’r System Bwyntiau Mewnfudo Newydd
  • BIF375 - Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr
  • BIF129 - Cyflogi Gweithwyr Rhan-amser
  • BIF457 - Cyflogi Staff ar Gontractau Tymor Penodedig
  • BIF259 - Cyflogi Staff o dan 18 Oed
  • BIF374 - Delio â Cheisiadau Gweithio’n Hyblyg
  • BIF246 - Cyflogi Gweithwyr Dros Dro drwy Asiantaeth
  • BIF118 - Rheoli Absenoldeb Salwch Gweithwyr
  • BIF523 - Yswiriant Gwladol ar gyfer Cyflogwyr
  • BIF328 - Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • BIF458 - Cynllun Talu wrth Ennill (PAYE)
  • BIF482 - Cofrestru Awtomatig â Chynllun Pensiwn
  • BIF168 - Gweithdrefnau a Deddfwriaeth Dileu Swyddi
  • BIF498 - Cofrestru ag Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel Cyflogwr Newydd
  • BIF540 - Gwiriadau Hawl i Weithio
  • BIF053 - Sefydlu a Chynnal System Gyflogau
  • BIF446 - Ysmygu ac E-sigarennau yn y Gweithle
  • BIF020 - Arfarniadau Staff
  • BIF335 - Polisi Rhyngrwyd ac E-bost Staff
  • BIF511 - Absenoldeb Mabwysiadu Statudol a Chyflog
  • BIF091 - Absenoldeb Mamolaeth Statudol a Chyflog
  • BIF512 - Absenoldeb Tadolaeth Statudol a Chyflog
  • BIF002 - Crynodeb o Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch y DU
  • BIF042 - Datganiadau Ysgrifenedig o Fanylion Cyflogaeth

Datblygu’r gweithlu

Mae Prifysgol Wrecsam a Choleg Cambria hefyd yn cynnig hyfforddiant ymarferol a phenodol: 

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (dolen gyswllt allanol) hefyd yn darparu arweiniad am ddim a diduedd am arian a phensiynau a gallant eich helpu chi a’ch gweithwyr gyda lles ariannol yn y gweithle. 

Cefnogaeth Dileu Swydd

Os ydych yn wynebu’r penderfyniad anodd o ddileu swyddi staff, mae cefnogaeth i’ch busnes a’ch gweithwyr sydd mewn perygl o golli swydd ar gael gan: