Mae cyflogaeth plant yn dod o dan reolau a rheoliadau caeth, sy’n amddiffyn plant rhag unrhyw niwed / cael eu hecsbloetio a sicrhau nad yw iechyd ac addysg plentyn yn dioddef.

Fel yr awdurdod addysg lleol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, mae gennym ni (Cyngor Wrecsam) yr awdurdod cyfreithiol i:  

  • oruchwylio plant sydd â swydd rhan amser  
  • erlyn unrhyw gyflogwr sy’n torri’r gyfraith 

Canllawiau cyffredinol (rhieni, plant a chyflogwyr)

Gofynion oed

  • Mae’n anghyfreithiol i blentyn o dan 13 oed gael ei gyflogi - mae’n rhaid i blentyn gyrraedd ei ben-blwydd yn 13 oed cyn gallu gwneud cais am drwydded waith.
  • Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob plentyn (gan gynnwys plant y cyflogwr) hyd at ddiwedd eu haddysg orfodol - a ddiffinnir fel y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd y byddant yn troi’n 16 oed.

Nid yw cael Rhif Yswiriant Gwladol a cherdyn yn golygu y gall plentyn gael swydd lawn amser ac/neu adael yr ysgol.

Mathau o waith a gymeradwyir 

Yn Wrecsam bydd plentyn 13 oed ond yn cael ei gyflogi mewn gwaith ysgafn yn y categorïau canlynol: 

  • gwaith swyddfa
  • mewn stablau marchogaeth
  • salon trin gwallt 
  • mewn caffi neu fwyty
  • gwaith amaethyddol neu arddwriaeth 
  • gwaith siop, gan gynnwys stacio silffoedd 
  • golchi car â llaw mewn lleoliad preswyl preifat
  • cludo papurau newydd a deunydd printiedig arall
  • gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill yn cynnig llety 

Terfynau amser gwaith cyffredinol

  • Ni all unrhyw blentyn weithio ar unrhyw adeg rhwng 7pm a 7am.  
  • Ni all plentyn weithio mwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol.  
  • Ni all plentyn weithio mwy na 2 awr ar ddydd Sul.  
  • Ni all plentyn weithio mwy na 12 awr yn ystod unrhyw wythnos pan maent angen mynd i’r ysgol. 

Terfynau amser gwaith penodol i oedran

  • Gall plentyn 13 neu 14 oed weithio hyd at 5 awr ar ddydd Sadwrn neu wyliau’r ysgol, a gall weithio hyd at fwyafswm o 25 awr yr wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol. 
  • Gall plentyn 15 neu 16 oed weithio hyd at 8 awr ar ddydd Sadwrn neu wyliau’r ysgol, a gall weithio hyd at fwyafswm o 35 awr yr wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol. 
  • Mae’n rhaid i blentyn sy’n gweithio am 4 awr gael egwyl am o leiaf 1 awr.  

Cyflog

Nid oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth yn nodi faint y dylai plentyn oedran ysgol gael ei dalu. Mae hwn yn benderfyniad a wneir rhwng y cyflogwr, y plentyn a’r rhiant/gwarchodwr. 

Fodd bynnag, mae plentyn yn parhau i gael ei gyfrif yn gyflogedig hyd yn oed os na ddarperir unrhyw dâl o gwbl neu os rhoddir taliad mewn nwyddau (er enghraifft gwersi marchogaeth am ddim, cinio neu nwyddau).  

Cyfrifoldeb y Cyflogwr

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen gais trwydded waith ar gyfer plentyn o fewn 7 diwrnod i blentyn ddechrau gweithio. Mae’n rhaid i riant/gwarchodwr y plentyn lofnodi’r ffurflen ac mae’n rhaid cyflwyno copi o’r asesiad risg perthnasol hefyd. 

Iechyd a diogelwch

Fel cyflogwr, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau fod eich gweithle yn ddiogel ar gyfer eich gweithwyr. Mae’n rhaid i chi:

  • ymgymryd ag asesiad risg person ifanc penodol o unrhyw beryglon yn y gwaith a hysbysu’r rhiant/gwarchodwr y plant beth (os oes unrhyw rai) yw’r peryglon hynny. 
  • wneud yn siŵr eich bod yn darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth a chanllawiau penodol i’r plentyn.
  • wneud yn siŵr fod y plentyn yn gwisgo dillad ac esgidiau addas.  
  • drefnu sicrwydd yswiriant priodol

Gwneud cais am drwydded

Dylech anfon e-bost at child_employment@wrexham.gov.uk i ofyn am ffurflen gais a thempled asesu risg trwydded waith ar gyfer plentyn.

Canllawiau pellach

Nid yw’r canllawiau ar y dudalen hon yn cynnwys holl reolau a rheoliadau cyflogaeth plant. 

Fel cyflogwr, rydych yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o’r ddeddfwriaeth a bod unrhyw blentyn a gyflogir gennych yn cael ei gyflogi’n gyfreithiol.

Cysylltu â’n tîm cyflogi plant

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon e-bost at child_employment@wrexham.gov.uk.